From Wikipedia, the free encyclopedia
Awdures o Rwsia oedd Avdotya Yakovlevna Panaeva (Rwsieg: Авдо́тья Я́ковлевна Пана́ева; 31 Gorffennaf 1820 - 30 Mawrth 1893) a oedd hefyd yn berchennog salon llenyddol. Y stori fer a'r nofel oedd ei hoff genre. Cyhoeddodd lawer o'i gwaith dan y ffugenw V. Stanitsky.[1]
Avdotya Panaeva | |
---|---|
Ffugenw | N. Stanickij |
Ganwyd | 31 Gorffennaf 1820 (yn y Calendr Iwliaidd), 1819 St Petersburg |
Bu farw | 30 Mawrth 1893 (yn y Calendr Iwliaidd) St Petersburg |
Dinasyddiaeth | Rwsia |
Alma mater | |
Galwedigaeth | perchennog salon, ysgrifennwr, golygydd |
Tad | Yakov Bryanskiy |
Mam | Q110387293 |
Partner | Nikolay Nekrasov |
Llinach | Q4343837 |
Fe'i ganed yn St Petersburg ac yno hefyd y bu farw; fe'i claddwyd ym mynwent 'Literatorskie mostki'. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Academi Celfyddydau Theatr y Wladwriaeth, Saint Petersburg.[2][3][4][5]
Ganwyd Avdotya Bryanskaya i deulu artistig. Roedd ei thad Yakov Bryansky yn actor trasig yn yr ysgol glasurol o actio, tra canodd ei mam A. M. Stepanova opera ac ymddangosodd mewn dramâu. Astudiodd Avdotya yn Academi Celfyddydau Theatr St Petersburg ond ni sefydlodd yrfa yn y theatr erioed.[6]
Yn 1837 priododd yr awdur Ivan Panaev ac ymunodd â chylch agos ei ffrindiau llenyddol. Ond ni pharodd y briodas yn hir iawn, ac yn 1846 roedd yn byw gyda Nikolay Nekrasov a threuliodd y 15 mlynedd nesaf gydag ef.[7] [8]
Cydweithiodd â'r ddau awdur yma a chyhoeddodd lawer o nofelau a straeon ei hun. Cyhoeddodd hi a Nekrasov ddwy nofel gyda'i gilydd: Tair Rhan o'r Byd (1848–49) a'r Llyn Marw (1851). Mae ei ffuglen yn delio â phroblemau cymdeithasol yr oesoedd, ac yn enwedig â hawliau menywod, fel yn ei nofel Lle'r Ferch (1862).[9]
Yn 1845 darllenodd Fyodor Dostoyevsky ei nofel gyntaf Y Werin Dlawd i grŵp llenyddol a drefnwyd gan Panaeva ac Ivan Panaev. Daeth Dostoyevsky yn ymwelydd cyson â'r salon llenyddol pwysig a drefnwyd gan Panaeva. Ond rhoddodd Dostoyevsky y gorau i fynychu'r salon ar ôl ymladd ag Ivan Turgenev, cyd-ymwelydd. Roedd ymwelwyr eraill y salon yn cynnwys Leo Tolstoy, Ivan Goncharov, Alexander Herzen, Vissarion Belinsky a Nikolai Chernyshevsky.
Dywedir nad yw ei hunangofiant yn ffeithiol gywir, gan ei bod yn flodeuog yn ei disgrifiadau o'r bobl y sonia amdanynt. Ond mae o werth hanesyddol ar y gymdeithas o lenorion Rwsiaidd yn yr adeg honno, sef y 1840au a'r 1850au.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.