Math o sbortscar[1] gan y gwneuthurwr ceir Audi yd'r Audi R8 sydd a'i injan wedi'i leoli rhwng y ddwy echel - yng nghanol y car. Mae'n perthyn i'r grŵp quattro ac mae'n yrriant pedair olwyn. Mae'n defnyddio petrol i'w yrru.
Fe'i cynhyrchwyd yn wreiddiol gan quattro GmbH sy'n rhan o Audi AG yn 2006; yn ei dro, mae Audi ydy rhan o'r grŵp Volkswagen AG. Sefydlwyd cynllyn y car ar gar arall, sef y Lamborghini Gallardo; Volkswagen AG yw perchennog Lamborghini hefyd.[2] O ran ei wneuthuriad, defnyddir yr Audi Space Frame, ac mae'n gerbyd ungragen aliminiwm er mwyn cadw'r pwysau mor isel â phosibl. Fe'i gwneir mewn ffatri bwrpasol yn Neckarsulm, yr Almaen.[3]
Yn 2005, cyhoeddodd Audi y byddid yn defnyddio'r enw R8 ymhen dwy flynedd, ar gar newydd ac y byddai wedi ei sefydlu ar gar cysyniadol (ei ragflaenydd) sef yr Audi Le Mans quattro, a ddaeth i olau dydd am y tro cyntaf yn Sioe Foduron Genefa yn 2003. Fe'i lansiwyd yn ffurfiol yn Sioe Gerbydau Paris ar 30 Medi 2006 a disgrifiwyd y car ar unwaith gan y gyrrwr Fformiwla Un Jacky Ickx fel: "the best handling road car today".[4][5][6]
Dyma'r car cyntaf i'w gynhyrchu gyda lampiau golau LED llawn.[7]
Rhagor o wybodaeth Datblygwyd sawl fersiwn o'r A8 dros y blynyddoedd (2003-2016): ...
Datblygwyd sawl fersiwn o'r A8 dros y blynyddoedd (2003-2016):