![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/5/53/Fes_%25285364833444%2529.jpg/640px-Fes_%25285364833444%2529.jpg&w=640&q=50)
Atlas Canol
From Wikipedia, the free encyclopedia
Cadwyn o fynyddoedd gyda hyd o tua 350 km sy'n ymestyn ar draws canolbarth Moroco o'r de-orllewin i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain yw'r Atlas Canol (Arabeg, الأطلس المتوسط ; Ffrangeg, Moyen Atlas). Mae'n gorwedd rhwng bryniau'r Rif i'r gogledd a'r Atlas Uchel i'e de, gydag arwynebedd o tua 2.3 miliwn hectar, sef tua 18% o ucheldiroedd y wlad.
![]() | |
Math | cadwyn o fynyddoedd ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Moroco ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 23,000 km² ![]() |
Uwch y môr | 3,356 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 33.5°N 4.5°W ![]() |
Hyd | 350 cilometr ![]() |
Cyfnod daearegol | Triasig ![]() |
Cadwyn fynydd | Mynyddoedd yr Atlas ![]() |
![]() | |
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/cy/thumb/b/be/Moyen-atlas.jpg/640px-Moyen-atlas.jpg)
Dyma'r mwyaf gorllewinol o dair cadwyn Mynyddoedd yr Atlas ym Moroco sy'n diffinio basn uchel sy'n ymestyn i gyfeiriad y dwyrain i Algeria. I'r de o'r Atlas Canol ac yn wahanedig gan yr afonydd Moulouya ac Oum Er-Rbia, mae'r Atlas Uchel yn ymestyn am 700 km mewn cyfres o gopaon gyda deg ohonynt dros 4,000 medr. I'r gogledd o'r Atlas Canol gorwedd Afon Sebou a mynyddoedd y Rif, sy'n ymestyniad deheuol o'r Cordillera Baetig (sy'n cynnwys y Sierra Nevada) yn ne Sbaen.
Gorwedd yn bennaf yn nhaleithiau Khénifra, Ifrane, Boulmane, Sefrou ac El Hajeb, ynghyd â rhannau o daleithiau Taza a'r Beni Mellal (enwir yr olaf yn "Ddrws yr Atlas Canol"). Fel yn achos yr Atlas Uchel, mae'n gartref i'r Berberiaid ac yn un o gadarnleoedd yr iaith Ferbereg.