Defnyddir y term ieithoedd Berberaidd am nifer o ieithoedd yn perthyn i deulu yr ieithoedd Affro-Asiaidd, a siaredir yn bennaf yn y Maghreb, gogledd Affrica gan y Berberiaid.
Enghraifft o'r canlynol | teulu ieithyddol |
---|---|
Math | Ieithoedd Affro-Asiaidd |
Rhan o | ieithoedd di-diriogaethol Ffrainc |
Yn cynnwys | Northern Berber, Western Berber, ieithoedd Twareg, Eastern Berber, Numidian, Guanche |
Nifer y siaradwyr | |
cod ISO 639-2 | ber |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ar un adeg ieithoedd Berberaidd yn cael ei siarad o Foroco yn y gorllewin i Ddiffeithwch Libia yn y dwyrain. Ildiodd yr ieithoedd hyn dir yn raddol yn sgîl y concwest Arabaidd yn y 6g. Eu cadarnleodd erbyn heddiw yw Moroco a rhannau o Algeria. Ceir ychydig o siaradwyr Berbereg yng ngorllewin Tiwnisia yn ogystal. Mae rhai pobl yn dal i siarad tafodiaith Ferberaidd ynysig yn ngwerddon Siwa, gorllewin Yr Aifft.
Llên a diwylliant
Am ganrifoedd roedd llenyddiaeth Ferberaidd yn llenyddiaeth lafar yn bennaf. Mae'n gyfoethog mewn chwedlau llên gwerin ac mae ganddi draddodiad barddol hynafol sy'n dal i flodeuo heddiw. Un o feirdd mwyaf nodedig yr iaith Ferberaidd yw'r Berber o Algeria, Si Muhand U M'hand (tua 1845 - 1905).
Gweler hefyd
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.