![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/1/1a/Ring_Nebula.jpg/640px-Ring_Nebula.jpg&w=640&q=50)
Astroffiseg
From Wikipedia, the free encyclopedia
Astroffiseg yw'r gangen o seryddiaeth sy'n delio â ffiseg a chemeg y bydysawd h.y. gwneuthuriad ffisegol y planedau, y sêr a gwrthrychau eraill yn hytrach na'u lleoliad neu symudiad drwy'r gofod. Mae hyn yn cynnwys priodweddau megis dwysedd, tymheredd, cyfansoddion cemegol a goleuedd o wrthrychau wybrennol e.e. galaethau, sêr, planedau, planedau allheulol, a'r cyfrwng rhyngserol, yn ogystal a'i rhyngweithiadau.[1][2]
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/c/c9/NIEdot362.jpg/640px-NIEdot362.jpg)
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | disgyblaeth academaidd, cangen o wyddoniaeth ![]() |
---|---|
Math | seryddiaeth, ffiseg ![]() |
Yn cynnwys | gwyddoniaeth y planedau ![]() |
![]() |
Astudir pelydriad (radiation) y gwrthrychau hyn; gwneir hynny ar draws y sbectrwm elecromagnetig, gyda nifer o briodweddau gan gynnwys disgleirdeb (luminosity), dwysedd, tymheredd a chyfansoddiadau cemegol. Gan fod astroffiseg yn faes mor eang astudir ystod eang o feysydd gan gynnwys mecaneg, electromagneteg, mecaneg ystadegol, thermodeinameg, mecaneg cwantwm, Damcaniaeth perthnasedd, ffiseg niwclear a gronynnol a ffiseg atomig, moleciwlar ac optegol.