![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/5/5e/Astrid_Lindgren_%2528cropped%2529.jpg/640px-Astrid_Lindgren_%2528cropped%2529.jpg&w=640&q=50)
Astrid Lindgren
sgriptiwr, ysgrifennwr, awdur plant, nofelydd (1907-2002) / From Wikipedia, the free encyclopedia
Awdur llyfrau plant o Sweden oedd Astrid Anna Emilia Lindgren (née Ericsson), neu fel arfer, Astrid Lindgren, ynganiad (14 Tachwedd 1907 - 28 Ionawr 2002). Mae'n fwyaf adnabyddus am ei chyfres Pippi Hosan-hir (Pippi Långstrump; 1945 ymlaen) a'r canlynol: Emil i Lönneberga (1963 a 1997), Karlsson på taket (Saesneg: Karlsson-on-the-Roof; 1955 ymlaen), a Barnen i Bullerbyn ('Chwe Phlentyn Bullerby', Six Bullerby Children neu The Children of Noisy Village yn UDA); 1947. Cyhoeddwyd cyfieithiad Cymraeg Siân Edwards o Pippi Hosan-hir gan Wasg y Dref Wen yn 1978.[1]
Astrid Lindgren | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Astrid Anna Emilia Ericsson ![]() 14 Tachwedd 1907 ![]() Vimmerby Parish, Vimmerby ![]() |
Bu farw | 28 Ionawr 2002 ![]() Gustav Vasa, Stockholm ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | sgriptiwr, awdur plant, nofelydd, ysgrifennwr ![]() |
Adnabyddus am | Pippi Longstocking, Emil i Lönneberga, Karlsson-on-the-Roof, The Six Bullerby Children, Bill Bergson, Ronia the Robber's Daughter, The Brothers Lionheart, Mio, My Son ![]() |
Arddull | llenyddiaeth plant, stori dylwyth teg ![]() |
Plaid Wleidyddol | Parti Ddemocrataidd Sosialaidd Sweden ![]() |
Tad | Samuel August Ericsson ![]() |
Mam | Hanna Ericsson ![]() |
Priod | Sture Lindgren ![]() |
Plant | Lars Lindgren, Karin Nyman ![]() |
Gwobr/au | Medal Diwylliant ac Addysg, Swediad Rhyngwladol y Flwyddyn, Deutscher Jugendliteraturpreis, Plac Nils Holgersson, Gwobr Lenyddol Svenska Dagbladet, Expressens Heffaklump, Gwobr Selma Lagerlöf, Gwobr 'Right Livelihood', Gwobr Heddwch y Fasnach Lyfrau Almaeneg, Gwobr Zilveren Griffel, Gwobr Hans Christian Andersen, Officier des Arts et des Lettres, Gwobr Illis Quorum, Urdd y Wên, Member of the Order of Vasa, Lisebergsapplåden, Urdd ryddid ![]() |
Gwefan | https://www.astridlindgren.com ![]() |
llofnod | |
![]() |
Gweithiai Lindgren ar Fwrdd Golygyddol Llenyddiaeth Plant yn Nhŷ Cyhoeddi Rabén a Sjögren yn Stockholm ac ysgrifennodd dros 30 o lyfrau i blant. Yn Ionawr 2017, credir mai hi yw'r awdur a gyfieithwyd fwyaf yn y byd, a'r pedwerydd awdur mwyaf awdurdodol ar ôl Enid Blyton, H. C. Andersen a'r Brodyr Grimm. Hyd yma (2019) mae Lindgren wedi gwerthu tua 165 miliwn o lyfrau ledled y byd.[2][3] [4][5][6]