Asiantaeth Ofod Ewropeaidd
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae'r Asiantaeth Ofod Ewropeaidd (Ffrangeg: Agence spatiale européenne) (a dalfyrir yn ryngwladol i: ESA), a sefydlwyd ym 1975, yn sefydliad rhynglywodraethol sy'n ymroddedig i fforio'r gofod. Mae ganddi 22 aelod, gweithlu o 2,000 o bobl a chyllid blynyddol o ryw €4.23 biliwn. Lleolir ei phencadlys ym Mharis.[1]
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/6/6a/ESA_and_EU.png/640px-ESA_and_EU.png)
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | sefydliad rhynglywodraethol, asiantaeth ofod, sefydliad rhyngwladol ![]() |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 30 Mai 1975 ![]() |
Rhagflaenwyd gan | European Launcher Development Organisation ![]() |
Yn cynnwys | SMILE ![]() |
Pennaeth y sefydliad | Director General of the European Space Agency ![]() |
Sylfaenydd | Gwlad Belg, Denmarc, Ffrainc, Gorllewin yr Almaen, yr Eidal, Yr Iseldiroedd, Sbaen, Sweden, y Deyrnas Unedig, Y Swistir ![]() |
Aelod o'r canlynol | Inter-Agency Space Debris Coordination Committee, Consultative Committee for Space Data Systems, Open Geospatial Consortium, RIPE Network Coordination Centre, DataCite, European Open Science Cloud Association ![]() |
Gweithwyr | 2,200 ![]() |
Ffurf gyfreithiol | Q112176659 ![]() |
Pencadlys | Paris ![]() |
Gwladwriaeth | Ffrainc ![]() |
Gwefan | https://www.esa.int/ ![]() |
![]() |
Mae rhaglen hedfan yr ESA yn cynnwys ehediadau gyda phobol, yn bennaf trwy gymryd rhan yn rhaglen hirdymor yr Orsaf Ofod Ryngwladol, lansio teithiau fforio di-griw i blanedau eraill, comedau a'r Lleuad, arsylwadau o'r Ddaear, gwyddoniaeth, telgyfathrebu, yn ogystal â datblygu maes lawnsio rocedi Canolfan Ofod Guiana ger Kourou, Guiana Ffrengig, a dyluno cerbydau lansio. Prif gerbyd lansio ESA yw'r Ariane 5, sy'n cael ei redeg gan Arianespace gydag ESA yn rhannu cost y lansiadau a datblygu'r cerbyd.