![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/f/f4/Antonio_Machado_hacia_1917.png/640px-Antonio_Machado_hacia_1917.png&w=640&q=50)
Antonio Machado
From Wikipedia, the free encyclopedia
Bardd a dramodydd Sbaenaidd yn yr iaith Sbaeneg oedd Antonio Machado y Ruiz (26 Gorffennaf 1875 – 22 Chwefror 1939) a oedd yn un o aelodau blaenllaw La Generación del 98.
Antonio Machado | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Antonio Cipriano José María Machado Ruiz ![]() 26 Gorffennaf 1875 ![]() Sevilla ![]() |
Bu farw | 22 Chwefror 1939 ![]() Collioure ![]() |
Man preswyl | Madrid, Paris, Soria, Baeza, Segovia, Sevilla, Rocafort, Barcelona, Collioure ![]() |
Dinasyddiaeth | Sbaen ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, ysgrifennwr, dramodydd, athro, deallusyn ![]() |
Adnabyddus am | Soledades. Galerías. Otros poemas, Campos de Castilla, Juan de Mairena ![]() |
Arddull | barddoniaeth, dramayddiaeth, traethawd ![]() |
Mudiad | Cenhedlaeth 98 ![]() |
Tad | Antonio Machado Álvarez ![]() |
Mam | Ana Ruiz Hernández ![]() |
Priod | Leonor Izquierdo ![]() |
Gwobr/au | Hijo Adoptivo de Zaragoza ![]() |
llofnod | |
![]() |
Ganed yn Sevilla, Andalucía, yn Nheyrnas Sbaen. Derbyniodd ddoethuriaeth llenyddiaeth ym Madrid cyn iddo astudio yn y Sorbonne, a gweithiodd yn athro Ffrangeg. Ffoes Sbaen yn sgil cwymp yr Ail Weriniaeth ym 1939 a bu farw yn Collioure yn ne Ffrainc yn 63 oed.[1]
Rhennir ei farddoniaeth yn dri chyfnod: ei gerddi dan ddylanwad Rhamantiaeth yn Soledades (1903) a Soledades, galerías, y otros poemas (1907); yr arddull noeth a phrudd megis yn y gyfrol Campos de Castilla (1912); a'r themâu dirfodol a geir yn ei gasgliadau diweddaraf, Nuevas canciones (1924) a Poesías completas (1928).