![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/e/e0/Antarctica_6400px_from_Blue_Marble.jpg/640px-Antarctica_6400px_from_Blue_Marble.jpg&w=640&q=50)
Yr Antarctig
Cyfandir / From Wikipedia, the free encyclopedia
Yr Antarctig yw cyfandir mwyaf deheuol y Ddaear, ac mae'n cynnwys Pegwn y De daearyddol. Fe'i lleolir, felly, yn Hemisffer y De - i'r de o Gylch yr Antartig, gyda Chefnfor y De yn ei amgylchynu. Caiff ei reoli dan amodau Cytundeb yr Antarctig. Ceir iâ dros 98% ohono a hwnnw'n 1.9 km (1.2 mi; 6,200 tr) o drwch, ar gyfartaledd.[1] ceir ychydig o dir yn y rhan gogleddol eithaf.
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/f/f2/Antarctica_%28orthographic_projection%29.svg/320px-Antarctica_%28orthographic_projection%29.svg.png)
![]() | |
Math | cyfandir, rhanbarth, terra nullius, part of the world ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl | anti-, Yr Arctig ![]() |
Poblogaeth | 4,400 ![]() |
Cylchfa amser | UTC−04:00, UTC−03:00, UTC±00:00, UTC+03:00, UTC+05:00, UTC+06:00, UTC+07:00, UTC+08:00, UTC+10:00, UTC+11:00, UTC+12:00 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | ehangdir, Antarctic, y Ddaear ![]() |
Sir | Ardal Cytundeb Antarctig ![]() |
Arwynebedd | 14,200,000 km² ![]() |
Cyfesurynnau | 90°S 0.000000°E ![]() |
![]() | |
Mae ei arwynebedd yn 14,000,000 kilometr sgwâr (5,400,000 milltir sgwâr), a'r cyfandir hwn yw'r 5ed mwyaf: ar ôl Asia, Affrica, gogledd America a De America. Mewn cymhariaeth mae Antartica oddeutu dwywaith yn fwy nag Awstralia.
Ar gyfartaledd yrAntartig yw'r cyfandir oeraf, sychaf a mwyaf gwyntog. Mae cyfartaledd ei uchter (uwch y môr) yn uwch nag unrhyw gyfandir arall.[2] Gellir diffion Antarctig yn "ddiffeithwch", gyda glawiad o ddim ond 200 mm (8 mod) ar yr arfordir a llai nahynny i mewn i'r tir mawr.[3] Mae'r tymheredd yn amrywio: gostyngodd i −89.2 °C (−128.6 °F) ychydig yn ôl, ond mae'r tymheredd fel arfer rhwng yn y trydych chwarter (y chwarter oeraf o'r flwyddyn) yn −63 °C (−81 °F).
Yn 2016 roedd 135 o bobl yn byw yno'n barhaol, ond ceir rhwng 1,000 a 5,000 yn byw yno'n achlysurol: y rhan fwyaf yn y gorsafoedd ymchwil. mae'r rhan fwyaf yn wyddonwyr sy'n astudio algae, bacteria, ffwng, planhigion, protista, ac anifeiliaid fel chwain, nematodeau, pengwiniaid, morloi a tardigradau.