![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/82/No_god_but_God.jpg/640px-No_god_but_God.jpg&w=640&q=50)
Ansar al-Sharia (Tiwnisia)
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Ansar al-Sharia (Arabeg : أنصار الشريعة sef 'Amddiffynwyr y Gyfraith Islamaidd'; Ffrangeg: Ansar al-Charia) yn fudiad islamaidd salaffaidd sy'n weithgar yn Tiwnisia ac sy'n hawlio tua 100,000 o gefnogwyr.[1]
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | sefydliad ![]() |
---|---|
Idioleg | Salafi jihadism ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 2011 ![]() |
Gwladwriaeth | Tiwnisia ![]() |
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/82/No_god_but_God.jpg/320px-No_god_but_God.jpg)
- Am fudiadau eraill o'r un enw, gweler Ansar al-Sharia (gwahaniaethu).
Mae'r mudiad yn weithgar ar sawl ffrynt. Ar un lefel, mae aelodau Ansar al-Sharia yn cymryd rhan ym mywyd gwleidyddol Tiwnisia gyda phrotestiadau yn erbyn seciwlariaeth a dylanwadau tramor "anfoesol" e.e. ffilmiau fel Persepolis. Maent hefyd yn darparu elusen i Fwslemiaid tlawd. Ond mae'r mudiad yn cynnwys elfennau jihadaidd hefyd sy'n credu mewn defnyddio trais i sefydlu Islamiaeth yn y wlad ac mewn gwledydd eraill ac a gyhuddir o weithrediadau terfysgol.
Cysylltir jihadwyr Ansar al-Sharia gyda grwp o wrthryfelwyr Islamaidd sydd wedi sefydlu eu hunain ym mynyddoedd Jebel Chambi, ger Kasserine yng ngorllewin y wlad, ger y ffin ag Algeria. Lladdwyd wyth milwr Tiwnisiaidd gan y gwrthryfelwyr ar 29 Gorffennaf 2013.[2] Ddechrau mis Awst 2013 dechreuodd byddin Tiwnisia ymosod ar eu llochesau gan ddefnyddio gynnau ac ymosodiadau o'r awyr gan awyrennau Llu Awyr Tiwnisia. Yn ôl terfysgwr a ddalwyd, mae'r jihadwyr yn cynnwys Algeriaid, Mawritaniaid a Nigeriaid ond mae'r mwyafrif yn Tiwnisiaid.[2]