![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/7/77/Welsh_independence_march_Cardiff_May_11_2019_19.jpg/640px-Welsh_independence_march_Cardiff_May_11_2019_19.jpg&w=640&q=50)
Annibyniaeth i Gymru
delfryd gwleidyddol yw annibyniaeth i Gymrua fyddai'n gweld Cymru'n rheoli ei hadnoddau ei hun, ac yn ennill annibyniaeth iddi ei hun fel gwladwriaeth sofran / From Wikipedia, the free encyclopedia
Annibyniaeth i Gymru yw'r mudiad gwleidyddol sydd am weld Cymru'n wladwriaeth sofran, yn annibynnol o'r Deyrnas Unedig.
- Gweler hefyd: Arolygon barn ar annibyniaeth i Gymru
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/7/77/Welsh_independence_march_Cardiff_May_11_2019_19.jpg/640px-Welsh_independence_march_Cardiff_May_11_2019_19.jpg)
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/9/99/Second_National_March_for_Welsh_Independence_July_2019_31.jpg/640px-Second_National_March_for_Welsh_Independence_July_2019_31.jpg)
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/b/b1/Eddie_Butler_at_the_Third_National_March_for_Welsh_Independence_7_September_2019_01.jpg/640px-Eddie_Butler_at_the_Third_National_March_for_Welsh_Independence_7_September_2019_01.jpg)
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/9/9e/Gorymdaith_Wrecsam_2_Gorffennaf_2022_-_national_march_for_indypendence%2C_Wrexham_2_July_2022_03.jpg/640px-Gorymdaith_Wrecsam_2_Gorffennaf_2022_-_national_march_for_indypendence%2C_Wrexham_2_July_2022_03.jpg)
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/6/68/5ed_Gorymdaith_YesCymru_-_the_5th_YesCymru_and_AUOB_march_in_Cardiff_1_Oct_2022_06.jpg/640px-5ed_Gorymdaith_YesCymru_-_the_5th_YesCymru_and_AUOB_march_in_Cardiff_1_Oct_2022_06.jpg)
Gorchfygwyd Cymru yn ystod y 13g gan Edward I o Loegr yn dilyn lladd Llywelyn ein Llyw Olaf (Tywysog Cymru). Cyflwynodd Edward yr ordinhad brenhinol, Statud Rhuddlan, yn 1284, gan beri i Gymru golli ei hannibyniaeth de facto, ac ymgorfforwyd y dywysogaeth Gymreig frodorol i Deyrnas Lloegr.[1] Adferodd Owain Glyndŵr, Tywysog Cymru, annibyniaeth i Gymru c. 1400–10, ond yn y diwedd llwyddodd Harri IV o Loegr i adennill rheolaeth ar Gymru.
Cyflwynodd Harri VIII o Loegr Ddeddfau'r Cyfreithiau yng Nghymru rhwng 1535 a 1542, disodlwyd Cyfraith Hywel han gyfraith Lloegr, ac integreiddiwyd y dywysogaeth Gymreig a'r Gororau yn rhan o Loegr.[2][3] Diffiniodd Deddf Cymru a Berwick "Lloegr" i gynnwys Cymru yn 1746, ond diddymwyd hyn yn rhannol gan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1967 gyda'r term " Cymru a Lloegr ".[4]
Daeth y mudiad annibyniaeth Cymreig modern i'r amlwg yn ystod canol y 19g, yn ogystal â mudiad dros "reolaeth gartref " ("home rule"). Ers 1999, mae Cymru wedi cael rhywfaint o bŵer deddfwriaethol fel rhan o ddatganoli Cymreig gan senedd y DU, a chyfraith gyfoes Gymreig o fewn system gyfreithiol (neu 'gyfreithfa') Lloegr. Ar hyn o bryd, mae’r pleidiau gwleidyddol Plaid Cymru,[5] Propel, Gwlad, a Phlaid Werdd Cymru yn cefnogi annibyniaeth i Gymru, fel y mae'r grŵp ymgyrchu amhleidiol YesCymru.[6] Mae cefnogaeth i annibyniaeth wedi cynyddu o 14% yn 2014 i’w gefnogaeth uchaf o 46% yn Ebrill 2021 wrth eithrio'r bleidlais 'ddim yn gwybod'.[7][8] Canfu arolwg barn YouGov yn Ionawr 2021 fod 47% o bobl Cymru yn gwrthwynebu cynnal refferendwm ar annibyniaeth i Gymru o fewn y pum mlynedd nesaf gyda 31% yn cefnogi.[9]