actores From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Anne Jacqueline Hathaway (ganed 12 Tachwedd 1982) yn actores o'r Unol Daleithiau. Cafodd ei swydd actio gyntaf ym 1999 yn y gyfres deledu Get Real, ond cafodd ei gyrfa fel actores ei ystyried o ddifrif pan gafodd ei rôl flaenllaw gyntaf yng nghomedi deuluol Disney, The Princess Diaries lle gweithiodd gyda Julie Andrews.
Anne Hathaway | |
---|---|
Ganwyd | Anne Jacqueline Hathaway 12 Tachwedd 1982 Brooklyn |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | actor ffilm, canwr, actor teledu, actor llwyfan, actor llais |
Adnabyddus am | The Princess Diaries, The Devil Wears Prada, The Dark Knight Rises, Rio (ffilm 2011), Rio 2 |
Math o lais | soprano |
Taldra | 173 centimetr |
Plaid Wleidyddol | plaid Ddemocrataidd |
Tad | Gerald T. Hathaway |
Mam | Kate McCauley Hathaway |
Priod | Adam Shulman |
Gwobr/au | Gwobr yr Academi am Actores Gynhaliol Orau, Gwobr Emmy 'Primetime', Gwobr Golden Globe am yr Actores Gynhaliol Orau - Ffilm Nodwedd, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Hasty Pudding Woman of the Year |
llofnod | |
Parhaodd i ymddangos mewn ffilmiau teuluol dros y tair blynedd nesaf, gan chwarae'r prif ran yn Ella Enchanted a The Princess Diaries 2: Royal Engagement yn 2004. Yn ddiweddarach, dechreuodd Hathaway actio mewn ffilmiau mwy beiddgar fel Havoc a Brokeback Mountain. Actiodd hefyd yn The Devil Wears Prada, gyda Meryl Streep; Becoming Jane, lle portreadodd Jane Austen, a Get Smart gyda Steve Carell. Yn 2008 derbyniodd ganmoliaeth eang am ei rôl yn y ffilm Rachel Getting Married. Derbyniodd amrywiaeth o wobrau am y rôl, gan gynnwys enwebiad am Wobr yr Academi am yr Actores Orau.
Mae ei dull o actio wedi cael ei gymharu i ddull Judy Garland ac Audrey Hepburn [1] ac mae'n cyfeirio at Hepburn fel un o'i hoff actoresau a Meryl Streep fel ei heilun. Enwodd y cylchgrawn People Hathaway fel un o brif actorion newydd 2001 ac yn 2006, cafodd ei henwi fel un o 50 Person Mwyaf Prydferth y byd.[2]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.