![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/d/d3/Calico_basin_red_rock_cumulus_mediocris.jpg/640px-Calico_basin_red_rock_cumulus_mediocris.jpg&w=640&q=50)
Anialwch Mojave
From Wikipedia, the free encyclopedia
Anialwch sych yng ngorllewin Unol Daleithiau America yw Anialwch Mojave. Mae'n ymestyn ar draws 113,300 km2 sydd wedi'u lleoli'n bennaf yn ne Califfornia a de Nevada yn ogystal a rhannau bach yn Utah ac Arizona. Fe'i lleolir nglawgysgodfa mynyddoedd deheuol Sierra Nevada a Chadwyni Transverse. Mae'n ffurfio ffin â Mynyddoedd Tehachapi, Mynyddoedd San Gabriel a Mynyddoedd San Bernardino. Mae eu hymylon gorllewinol i'w gweld yn glir iawn gan eu bod yn cynnwys dau barth ffawt cyfandirol mwyaf Califfornia, sef Ffawt San Andreas a Ffawt Garlock. Dyma hefyd safle Death Valley, sef yr ardal isaf yng Ngogledd America.[1]
Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
![]() | |
Math | anialwch, WWF ecoregion ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 124,000 km² ![]() |
Gerllaw | Afon Mojave, Afon Colorado ![]() |
Cyfesurynnau | 35.0083°N 115.475°W ![]() |
![]() | |
Cau