![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/1/12/Enrique_Simonet_-_La_autopsia_1890.jpg/640px-Enrique_Simonet_-_La_autopsia_1890.jpg&w=640&q=50)
Angeueg
Yr astudiaeth gwyddonol o farwolaeth a'r colledion sy'n dod fel canlyniad iddo. / From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwyddor marwolaeth yw angeueg[1] sydd yn astudio'r profiad marw, gofal diwedd oes, ac agweddau seicolegol galaru. Maes rhyngddisgyblaethol ydyw sydd yn tynnu ar feddygaeth a gwyddor iechyd, gwyddor ymddygiad, cymdeithaseg, anthropoleg, diwinyddiaeth, athroniaeth, economeg, ac hanes.
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Math ...
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | disgyblaeth academaidd ![]() |
---|---|
Math | gwyddoniaeth, applied psychology ![]() |
![]() |
Cau
Ym 1903 fe alwodd y biolegydd Élie Metchnikoff am sefydlu disgyblaeth wyddonol i astudio'r holl ffenomenau sydd yn ymwneud â marwolaeth, gan ddadlau bod angen deall y pwnc hwnnw os yw gwyddonwyr am ddeall y gwyddorau bywyd. Ni chafwyd datblygiad yn y maes nes ail hanner yr 20g. Tyfodd y ddisgyblaeth yn y 1960au a'r 1970au ar sail llyfrau gan Herman Feifel, Robert Kastenbaum, Ruth Aisenberg, ac Elisabeth Kübler-Ross.[2][3]