![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/2/2b/Andy_Warhol_by_Jack_Mitchell.jpg/640px-Andy_Warhol_by_Jack_Mitchell.jpg&w=640&q=50)
Andy Warhol
cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd a sgriptiwr ffilm a aned yn Pittsburgh yn 1928 / From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd Andy Warhol (6 Awst 1928 – 22 Chwefror 1987) yn arlunydd Americaniad, y cymeriad mwyaf amlwg yn y mudiad celfyddyd gweledol Pop. Ar ôl cyfnod fel darlunydd masnachol, daeth Warhol yn arlunydd avant-garde, ei waith yn cynnwys amrywiaeth eang o feysydd a chyfryngau – arlunio â llaw, peintio, gwaith print, ffotograffiaeth, argraffu sgrin sidan, ffilm a cynhyrchydd cerddoriaeth. Roedd yn arloeswr mewn celfyddyd ddigidol gan ddefnyddio cyfrifiaduron Amiga ym 1984 y flwyddyn gyntaf iddynt ddod ar y farchnad, dwy flynedd cyn iddo farw.
Andy Warhol | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Andrew Warhola Jr. ![]() 6 Awst 1928 ![]() Pittsburgh ![]() |
Bu farw | 22 Chwefror 1987 ![]() o arhythmia'r galon ![]() Dinas Efrog Newydd ![]() |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfarwyddwr ffilm, arlunydd, ffotograffydd, cynhyrchydd ffilm, cerflunydd, artist, sinematograffydd, sgriptiwr, dyddiadurwr, cynllunydd, arlunydd graffig, gwneuthurwr ffilm, gwneuthurwr printiau, drafftsmon, darlunydd, artist sy'n perfformio, artist gosodwaith, awdur, masnachwr, cynhyrchydd ![]() |
Adnabyddus am | Campbell's Soup Cans II, Chelsea Girls, Exploding Plastic Inevitable, Marilyn Diptyque, Shot Marilyns ![]() |
Arddull | portread (paentiad), bywyd llonydd, portread ![]() |
Plaid Wleidyddol | plaid Ddemocrataidd ![]() |
Mudiad | celf bop ![]() |
Tad | Andrej Warhola ![]() |
Mam | Julia Warhola ![]() |
Partner | Billy Name, John Giorno, Jed Johnson ![]() |
Perthnasau | James Warhola ![]() |
Gwefan | http://www.warhol.org ![]() |
llofnod | |
![]() |
Roedd ei waith yn canolbwyntio ar y perthynas rhwng celfyddyd, sêr diwylliant poblogaidd, a'r byd hysbysebu o'r 1960au ymlaen, yn bathu'r dywediad 15 munud o enwogrwydd.
Mae ei waith ymhlith y drytach ar y farchnad gelf, y swm uchaf a dalwyd erioed am un o weithiau Warhol yw US$100 miliwn am lun ar ganfas o 1963 o'r enw Eight Elvises. [1]