Amy Coney Barrett
From Wikipedia, the free encyclopedia
Cyfreithiwr, barnwr ac academydd Americanaidd yw Amy Coney Barrett (ganwyd 28 Ionawr 1972) sy'n gwasanaethu fel barnwr yn Llys Apêl yr Unol Daleithiau ar gyfer y Seithfed Cylchdaith. Cafodd ei henwebu gan yr Arlywydd Donald Trump ar 26 Medi 2020 ar gyfer yr Llys Goruchaf yn lle Ruth Bader Ginsberg a fu farw wythnos ynghynt.[1]
Amy Coney Barrett | |
---|---|
Ganwyd | Amy Vivian Coney 28 Ionawr 1972 New Orleans |
Dinasyddiaeth | UDA |
Alma mater | |
Galwedigaeth | barnwr, cyfreithegwr, academydd, cyfreithiwr |
Swydd | Judge of the United States Court of Appeals for the Seventh Circuit, Associate Justice of the Supreme Court of the United States |
Cyflogwr | |
Plaid Wleidyddol | plaid Weriniaethol |
Priod | Jesse M. Barrett |
Roedd yr enwebiad yma'n un arwyddocaol gan ei bod yn flwyddyn etholiad, bu rhaid i'r Senedd gadarnhau'r enwebiad yn y cyfnod byrraf erioed neu roedd yr Arlywydd nesaf yn cael cyfle i ddewis yr enwebiad oes o farnwr yn y Llys Goruchaf.[1]
Cafodd ei gadarnhau gan y Senedd ar y 27 Hydref 2020 a thyngu llw o flaen torf o 200 o bobol yng ngerddi'r Tŷ Gwyn ar yr un diwrnod. Mae hyn yn creu mwyafrif gweriniaethol (7-3) ar y Llys Goruchaf gan gynyddu'r gallu'r Llys i wrthdroi deddfwriaeth ac achosion pwysig fel deddf Gofal Fforddiadwy (Obamcare) Roe v. Wade (hawl i fenyw cael erthyliad).[2][3]