Mae amniosentesis yn brawf a gynhelir ar ôl 15 wythnos o feichiogrwydd i chwilio am annormaleddau neu'r posibilrwydd o annormaleddau neu gyflwr difrifol yn y ffoetws. Gall ganfod cyflyrau cromosomaidd fel syndrom Down, syndrom Edward a syndrom Patau. Mae'r rhain oll yn gyflyrau cromosomaidd ble genir y baban gyda chromosom ychwanegol. Fe'i gelwir yn braf diagnostig mewnwthiol ac fe gaiff ei gynnig i ddim ond tua 5% o fenywod beichiog. Mae ganddo risg bach o erthyliad, 0.5 - 1% (1 o bob 100 o fenywod), felly fe'i cynigir ddim ond i fenywod sydd mewn perygl y gallai eu baban ddatblygu cyflwr difrifol neu annormaledd. Mae'r rhesymau tebygol dros gynnig prawf amniosentesis yn cynnwys:
- Oed y fam – ceir risg uwch o gael baban syndrom Down mewn menywod dros 35 mlwydd oed
- Hanes meddygol - os oes hanes o anhwylderau cromosomaidd
- Hanes teuluol.[1]
Math | cytopathology, body fluid sampling, Sgrinio cyn-geni |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cyfeiriadau
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.