Amblyopia
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae pylni'r golwg neu amblyopia (Saesneg), a elwir hefyd yn llygad diog, yn anhwylder golwg, ac fe achosir gan ddiffyg cydweithrediad rhwng y llygad a'r ymennydd. Arweinir at ostyngiad mewn golwg, a hynny mewn llygad sydd fel arall yn ymddangos yn arferol. Dyma'r achos mwyaf cyffredin o golled golwg mewn un llygad ymhlith plant ac oedolion iau.[1]
Enghraifft o'r canlynol | dosbarth o glefyd, symptom neu arwydd |
---|---|
Math | clefyd y llygad, nam ar y golwg, clefyd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Gall amblyopia gael ei achosi gan unrhyw gyflwr sy'n ymyrryd â'r broses ffocysu yn ystod plentyndod cynnar.[2] Mae'n bosib iddo hanu o ddiffyg cyfluniad yn y llygaid; siâp llygad afreolaidd, lle bo' ffocysu'n anoddach; gwahaniaethau golwg, hynny yw bod un llygad â golwg byr a'r naill â golwg hir; neu gymylu yn lens y llygad. Wedi i'r achos sylfaenol gael ei ddatrys, nid yw golwg y dioddefwr yn adfer ar unwaith gan fod mecanwaith y cyflwr yn cynnwys yr ymennydd yn ogystal.[3] Gall fod yn anodd canfod amblyopia, felly argymhellir cynnal profion llygaid ar gyfer pob plentyn o bedair i bump oed.[4]
Wrth ganfod y cyflwr yn gynnar mae modd ei drin yn fwy effeithiol. Yn achos rhai plant nid oes angen triniaeth helaethach na gwisgo sbectol llygaid.[5] Os nad yw'r dull hynny'n ddigonol, gweithredir triniaethau sy'n gorfodi'r plentyn i ddefnyddio'r llygad gwannach. Gwneir hynny naill ai drwy wisgo clwt llygad neu rhoddir atropin yn y llygad cryfach. Heb driniaeth, mae amblyopia fel arfer yn parhau i gyfnod oedolyn. Ni cheir ymchwil na thystiolaeth safonol ynghylch triniaethau ar gyfer oedolion.
Mae amblyopia'n dechrau erbyn bod rhywun yn bump oed. Effeithir y cyflwr oddeutu 1-5% o'r boblogaeth hŷn.[6] Er bod triniaeth yn gwella golwg, nid yw fel arfer yn ei adfer yn llwyr yn y llygad ag effeithir. Disgrifiwyd amblyopia am y tro cyntaf yn y 1600au.[7] Gall y cyflwr wneud unigolyn yn anghymwys i fod yn beilot neu swyddog yn yr heddlu. Mae'r gair amblyopia yn dod o ἀμβλύς (amblys yn y Roeg) sy'n golygu "di-awch" a ὤψ ōps sy'n golygu "golwg".[8]