Alva Belmont
From Wikipedia, the free encyclopedia
Ffeminist Americanaidd oedd Alva Belmont, (17 Ionawr 1853 - 26 Ionawr 1933) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel cymdeithaswr a swffragét. Rhwng 1875 i 1896, fe'i hadwaenid fel Alva Vanderbilt. Roedd yn filiwnydd ac yn ffigwr mawr yn yr ymgyrch i gael pleidleis i ferched America, sef yr hyn a elwir yn "etholfraint". Ar 12 Ebrill 2016 fe'i anrhydeddwyd gan yr Arlywydd Barack Obama a chodwyd cofeb Belmont-Paul Women's Equality National Monument yn Washington, D.C.[1][2][3][4][5][6][7][8]
Alva Belmont | |
---|---|
Ganwyd | Alva Erskine Smith 17 Ionawr 1853 Mobile, Alabama |
Bu farw | 26 Ionawr 1933 Augerville-la-Rivière, Paris |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Galwedigaeth | cymdeithaswr, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched, noddwr y celfyddydau, gweithredydd gwleidyddol |
Adnabyddus am | Marble House |
Tad | Murray Forbes Smith |
Mam | Phoebe Desha |
Priod | William Kissam Vanderbilt I, Oliver Belmont |
Plant | William Kissam Vanderbilt II, Harold Stirling Vanderbilt, Consuelo Vanderbilt |
I rai pobl, roedd ei hagwedd aristocrataidd yn groes i'r graen. Ond beth bynnag eu barn, roedd ganddi egni eithriadol, deallusrwydd, barn bendant a'r hyder i herio'r drefn.[9][10]
Yn 1909, sefydlodd y Gynghrair Cydraddoldeb Gwleidyddol (Political Equality League) i annog etholwyr i bleidleisio i'r rhai hynny a oedd o blaid etholfraint, yr hawl i fenywod bleidleisio. Ysgrifennai lythyrau i'r papurau ac ymunodd â Chymdeithas Menywod Menywod Cenedlaethol America, sef NAWSA (National American Woman Suffrage Association (NAWSA)). Yn ddiweddarach ffurfiodd ei Chynghrair Cydraddoldeb Gwleidyddol ei hun (Political Equality League) yn Ninas Efrog Newydd, i ymgyrchu dros etholfraint yn Efrog Newydd, ac fel ei llywydd, arweiniodd y New York City's 1912 Women's Votes Parade.
Yn 1916, roedd yn un o sylfaenwyr Plaid Genedlaethol y Menywod a threfnodd y piced, neu'r brotest gyntaf erioed gan fenywod, a hynny o flaen y Tŷ Gwyn, yn Ionawr 1917. Fe'i hetholwyd yn Llywydd Plaid Genedlaethol y Menywod, swydd a gyflawnodd hyd at ei marwolaeth.