Alexandria Ocasio-Cortez
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Alexandria Ocasio-Cortez (ganwyd 13 Hydref 1989) yn wleidydd ac ymgyrchydd Americanaidd.[1][2] Mae hi hefyd yn adnabyddus dan yr enw AOC.[3][4]
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Dinasyddiaeth ...
Alexandria Ocasio-Cortez | |
---|---|
Ganwyd | (1989-10-13) 13 Hydref 1989 (34 oed) Dinas Efrog Newydd, Efrog Newydd, Unol Daleithiau America |
Dinasyddiaeth | UDA |
Addysg | Prifysgol Boston (Baglor yn y Celfyddydau) |
Rhagflaenydd | Joe Crowley |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ddemocrataidd (Unol Daleithiau) |
Gwefan | Gwefan ar house.gov |
Cau
Mae hi'n aelod o'r Blaid Ddemocrataidd, ac wedi cynrychioli ardal gyngresol 14eg dinas Efrog Newydd ers 3 Ionawr 2019. Mae'r ardal yn cynnwys y darn dwyreiniol o'r Bronx a darnau o Queens yn ninas Efrog Newydd.
Mae hi'n aelod o fudiad Sosialwyr Democrataidd America.[5][6]
Hi yw'r ddynes ifancaf i fod yn aelod o Gyngres yr Unol Daleithiau.