![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/9/9d/Aladdin_2019_Logo_Black.svg/langcy-640px-Aladdin_2019_Logo_Black.svg.png&w=640&q=50)
Aladdin (ffilm 2019)
ffilm deuluol sy'n ffuglen hapfasnachol gan Guy Ritchie a gyhoeddwyd yn 2019 / From Wikipedia, the free encyclopedia
Ffilm ffantasi gerddorol Americanaidd yw Aladdin. Rhyddhawyd yn 2019, gynhyrchwyd gan Walt Disney Pictures, a chafodd ei gyfarwydd gan Guy Ritchie, a ysgrifennodd ar y cyd â John August. Mae'n addasiad actorion-byw o ffilm animeiddiedig Disney o'r un enw yn 1992, sydd yn seiliedig ar y stori o'r un enw o'r Mil ac Un o Nosweithiau.[1] Mae actorion y ffilm yn cynnwys Will Smith, Mena Massoud, Naomi Scott, Marwan Kenzari, Navid Negahban, Nasim Pedrad, Billy Magnussen, a Numan Acar, yn ogystal â lleisiau Alan Tudyk a Frank Welker. Mae'r Fred Walker chwarae'r un cymeriadau a wnaeth chwarae ym mhob ffilm flaenorol. Mae'r plot yn dilyn Aladdin, crwt y stryd, sy'n cwympo mewn cariad â'r Dywysoges Jasmine, yn dod yn ffrindiau â Genie sy'n medru grantio dymuniadau, ac yn brwydro yn erbyn y Jafar.
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | ffilm ![]() |
---|---|
Lliw/iau | lliw ![]() |
Gwlad | Unol Daleithiau America ![]() |
Dyddiad cyhoeddi | 24 Mai 2019, 22 Mai 2019, 23 Mai 2019 ![]() |
Genre | ffilm ramantus, ffilm antur, ffilm gerdd, ffilm ffantasi, ffilm ffuglen ddyfaliadol, ffilm deuluol, ffilm llawn cyffro ![]() |
Lleoliad y gwaith | Moroco ![]() |
Hyd | 128 munud, 129 munud ![]() |
Cyfarwyddwr | Guy Ritchie ![]() |
Cynhyrchydd/wyr | Dan Lin ![]() |
Cwmni cynhyrchu | Walt Disney Pictures, Lin Pictures ![]() |
Cyfansoddwr | Alan Menken ![]() |
Dosbarthydd | Walt Disney Studios Motion Pictures, Microsoft Store, Disney+ ![]() |
Iaith wreiddiol | Saesneg ![]() |
Sinematograffydd | Alan Stewart ![]() |
Gwefan | https://movies.disney.com/aladdin-2019 ![]() |
![]() |
Ym mis Hydref 2016, cyhoeddodd Disney y byddai Ritchie yn cyfarwyddo'r fersiwn newydd actorion-byw o Aladdin. Smith oedd aelod cyntaf y cast i ymuno, i bortreadu Genie, ym mis Gorffennaf 2017, a chadarnhawyd Massoud a Scott ar gyfer y ddwy rôl arweiniol yn ddiweddarach y mis hwnnw. Dechreuodd y prif ffilmio y mis Medi hwnnw yn Studios Longcross yn Surrey, Lloegr. Ffilmion nhw hefyd yn yr anialwch Wadi Rum yn yr Iorddonen. Parhaodd y ffilmio tan fis Ionawr 2018. Digwyddodd ffilmio ychwanegol ym mis Awst 2018.
Rhyddhawyd Aladdin yn theatrau yn yr Unol Daleithiau ar 24 Mai 2019. Fe elwodd $1 biliwn ledled y byd. Roedd y nawfed ffilm fwyaf llwyddiannus 2019, a'r 34ain ffilm fwyaf llwyddiannus erioed. Derbyniodd y ffilm adolygiadau cymysg gan feirniaid, gyda chanmoliaeth am ei sgôr gerddorol, dyluniad gwisgoedd, hiwmor, a pherfformiadau Smith, Massoud, a Scott, ond derbyniodd beirniadaeth wael am gyfarwyddiad Ritchie, castio Kenzari a’r sgript.[2]