From Wikipedia, the free encyclopedia
Afon yn ne-ddwyrain Califfornia ydy Afon Owain (Saesneg: Owens River) sydd oddeutu 120 milltir (193.1 km) o ran hyd. Mae'n llifo drwy Ddyffryn Owain rhwng wyneb dwyreiniol Sierra Nevada a wyneb gorllewinol Mynyddoedd Inyo. Llifa'r afon yn ei blaen i Lyn Owain, sydd ers 1913 yn llyn sych oherwydd fod system ddŵr Los Angeles wedi dargyfeirio dŵr yr afon.
Enw gwreiddiol yr afon oedd Wakopee ac enw'r brodorion ar y llyn oedd "Pacheta". Enwyd yr afon ar ôl y mapiwr Richard Owens, a oedd yn gartograffiwr ac a fapiodd yr ardal yn 1845 gyda thim a oedd hefyd yn cynnwys John C. Fremont.[1]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.