![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/2/20/Adelina_Patti_portrait_%252811063797055%2529_%2528cropped%2529.jpg/640px-Adelina_Patti_portrait_%252811063797055%2529_%2528cropped%2529.jpg&w=640&q=50)
Adelina Patti
cyfansoddwr a aned yn 1843 / From Wikipedia, the free encyclopedia
Cantores opera enwog o Sbaenes oedd Adelina Patti (10 Chwefror 1843 – 27 Medi 1919). Daeth yn hynod enwog ym myd cerddorol Llundain, Paris a dinasoedd mawr eraill fel un o sopranos opera mwyaf blaengar y cyfnod gyda'i llais bel canto. Roedd hi'n adnabyddus fel 'Madame Patti', "Brenhines y Gân". Ganwyd hi ym Madrid ar y pedwerydd-ar-bymtheg o Chwefror, 1843, i fam Eidalaidd a thad Sisilaidd.
Adelina Patti | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 19 Chwefror 1843 ![]() Madrid ![]() |
Bu farw | 27 Medi 1919 ![]() Aberhonddu ![]() |
Dinasyddiaeth | Sbaen, Teyrnas yr Eidal ![]() |
Galwedigaeth | canwr opera, cyfansoddwr ![]() |
Arddull | cerddoriaeth glasurol, opera ![]() |
Math o lais | soprano coloratwra, soprano ![]() |
Mam | Caterina Barili ![]() |
Priod | Ernesto Nicolini ![]() |
Gwobr/au | Medal Diwylliant ac Addysg, Medal Aur Cymdeithas y Royal Philharmonic ![]() |
Yn 1878 prynodd gastell ac ystad Craig-y-nos, yn y Fforest Fawr, Brycheiniog, i gael dianc i'r bryniau rhag y byd ffasiynol. Byddai'n dychwelyd i Gastell Craig-y-nos ar ddiwedd pob taith o gwmpas tai opera mawr y byd, yn Ewrop ac America.
Ym 1877 ysgrifennodd Giuseppe Verdi mai Patti oedd y gantores orau a fu erioed.[1] Ym 1862, tra ar daith o'r Unol Daleithiau, canodd gân John Howard Payne - Home, Sweet Home yn y Tŷ Gwyn i'r Arlywydd Abraham Lincoln a'i wraig Mary Lincoln. Ar y pryd roeddent mewn galar wedi iddynt golli eu mab Willie a fu farw o'r teiffoid. Roedd dagrau'n powlio i lawr eu gruddiau a mynnent ei bod yn canu'r gân eilwaith. Am flynyddoeddd wedi hynny cysylltwyd y gân â Lincoln.