Ada Lovelace
mathemategydd Prydeinig, yn cael ei ystyried y rhaglennydd cyfrifiadurol cyntaf (1815-1852) / From Wikipedia, the free encyclopedia
Mathemategydd ac awdur o Loegr oedd Augusta Ada King, Iarlles Lovelace (née Byron; 10 Rhagfyr 1815 – 27 Tachwedd 1852), a adwaenir yn bennaf am ei gwaith ar gyfrifiadur Charles Babbage: the Analytical Engine. Gwelir yn ei nodiadau yr hyn a gaiff ei ystyried i fod yr algorithm cyntaf i gael ei weithredu gan beiriant. Oherwydd hyn, ystyrir hi'r 'rhaglenydd' meddalwedd cyntaf.[1][2]
Problem chwarae ffeil yma? Gweler Cymorth. |
Ada Lovelace | |
---|---|
Ffugenw | A. A. L. |
Ganwyd | Augusta Ada Byron 10 Rhagfyr 1815 Llundain |
Bu farw | 27 Tachwedd 1852 o canser y groth Marylebone |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Galwedigaeth | mathemategydd, rhaglennwr, bardd, gwyddonydd cyfrifiadurol, dyfeisiwr, cyfieithydd, ysgrifennwr, peiriannydd |
Cyflogwr | |
Prif ddylanwad | Charles Babbage |
Tad | George Gordon Byron |
Mam | Anne Isabella Byron |
Priod | William King-Noel |
Plant | Anne Blunt, Ralph King-Milbanke, Byron King-Noel |
llofnod | |
Unig ferch gyfreithiol y bardd George, Arglwydd Byron a'i wraig Anne Isabella (née Noel) oedd Ada ac fe'i ganwyd ar 10 Rhagfyr 1815.[3] Plant llwyn a pherth oedd gweddill plant Byron, a hynny gan ferched eraill, y tu allan i'r briodas.[4] Fis wedi ei geni, gwahanodd Byron ac Anne gan droi ei gefn ar Loegr bedwar mis yn ddiweddarach, heb ddod yn ôl. Yn naturiol, teimlai Anne yn chwerw tuag at ei chyn-ŵr Byron, a cheisiodd arwain ei merch Ada ar hyd llwybr gwahanol, amgenach i'w thad: mathemateg a rhesymeg. Ond teimlai Ada'n agos ato drwy gydol ei hoes a chafodd ei chladdu wrth ei ochr wed iddi farw.