afiechyd ar y chwarren sebwm From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Acne, a elwir hefyd yn acne vulgaris neu plorynnod, yn glefyd croen tymor hir sydd i'w weld pan fydd ffoliglau blew wedi eu llyffetheirio gyda chelloedd croen marw ac olew o'r croen.[1] Mae wedi'i nodweddu gan penddìynnod neu milia, plorod, croen seimllyd, a chreithio posibl.[2][3] Mae'n effeithio yn bennaf ar ardaloedd o'r croen gyda nifer uchel o chwarennau olew, yn cynnwys yr wyneb, rhan uchaf y frest, a'r cefn.[4] Gall yr ymddangosiad o ganlyniad arwain at ordyndra, gostyngiad mewn hunan-barch ac, mewn achosion eithafol, iselder neu feddwl am hunanladdiad.[5][6]
Enghraifft o'r canlynol | cyflwr ffisiolegol, problem iechyd, dosbarth o glefyd |
---|---|
Math | afiechyd ar y chwarren sebwm, clefyd |
Symptomau | Pimple |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Tybir mai geneteg yw prif achos acne mewn 80% o achosion.[7] Nid yw'n eglur beth yw rhan y deiet ac ysmygu, ac nid yw'n ymddangos bod glendid neu olau haul ran ychwaith.[8][9] Yn ystod y glasoed, yn y ddau ryw, mae acne yn cael ei achosi gan gynnydd mewn hormonau megis testosteron. Ffactor a welir yn aml yw gor-dyfiant y bacteriwm Propionibacterium acnes, sydd fel arfer yn bresennol ar y croen.[10]
Mae nifer o ddulliau o drin acne, yn cynnwys newidiadau mewn ffordd o fyw, meddyginiaethau, a chamau meddygol. Gall bwyta llai o garbohydradau syml fel siwgr helpu.[11] Yn aml defnyddir triniaethau sy'n cael eu rhoi yn uniongyrchol ar y croen, megis asid azelaig, benzoyl perocsod, ac asid alicylig. Mae gwrthfiotigau a retinoidau ar gael mewn fformwleiddiadau sy'n cael ei rhoi ar y croen a'u cymryd trwy'r ceg i drin acne. Fodd bynnag, gall gwrthsafiad i wrthfiotigau ddatblygu o ganlyniad i therapi gwrthfiotig.[12] Mae nifer o wahanol fathau o dabledi atal genhedlu yn gallu helpu gydag acne mewn menywod. Cedwir tabledi isotretinoin fel arfer ar gyfer achosion o acne eithafol oherwydd y posibilrwydd o sgil-effeithiau.[13] Mae trin acne yn gynnar ac yn ymosodol yn cae ei annog gan rai yn y gymuned feddygol i leihau'r effaith tymor hir ar unigolion.
Yn 2015, amcangyfrifwyd bod acne yn effeithio ar 633 miliwn o bobl yn fyd-eang, gan ei wneud yn yr 8fed clefyd mwyaf cyffredin yn y byd.[14] Mae acne yn aml yn digwydd yn ystod llencyndod ac yn effeithio amcangyfrif o 80–90% o bobl ifanc yn eu harddegau yn y byd Gorllewinol.[15][16] Adroddir cyfraddau is mewn cymdeithasau gwledig.[17] Gall plant ac oedolion gale eu heffeithio cyn ac ar ôl y glasoed.[18] Er bod acne yn llai cyffredin ymhlith oedolion, mae'n parhau mewn tua hanner y bobl sy'n cael eu heffeithio hyd yr ugeiniau a thridegau ac mae grwp llai yn cael anawsterau hyd at eu pedwardegau.
Gall acne fod ar gathod,[19] cwn,[20] a cheffylau hefyd.[21][22]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.