From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae acetylcystein, sydd hefyd yn cael ei alw’n N-acetylcystein (NAC), yn feddyginiaeth a ddefnyddir i drin gorddosau parasetamol (acetaminoffen) ac i lacio mwcws tew mewn unigolion sydd â ffeibrosis systig neu glefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint.[1] Y fformiwla cemegol ar gyfer y cyffur hwn yw C₅H₉NO₃S.
Enghraifft o'r canlynol | math o endid cemegol |
---|---|
Math | N-acetyl-DL-cysteine |
Màs | 163.03 uned Dalton |
Fformiwla gemegol | C₅h₉no₃s |
Clefydau i'w trin | Trafferth anadlu, ffibrosis systig, bronciectasis, broncitis acíwt, afiechyd yr ysgyfaint, emffysema ysgyfeiniol, niwmonia, amyloidosis |
Beichiogrwydd | Categori beichiogrwydd awstralia b2, categori beichiogrwydd unol daleithiau america b |
Yn cynnwys | nitrogen, carbon, ocsigen, sylffwr, hydrogen |
Gwneuthurwr | Pfizer |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Gellir ei gymryd trwy wythïen, ceg, neu ei anadlu ar ffurf niwl. Mae rhai pobl yn ei ddefnyddio fel atodiad dietegol.[2]
Gall y feddyginiaeth arwain at rai sgil effeithiau megis chwydu, os cymerir drwy’r geg. Efallai y bydd y croen yn cochi gyda'r naill ddull. Weithiau fe achosir math o an-imiwnedd o anaffylacsis. Ymddengys yn ddiogel ar gyfer y rheini sy'n feichiog. Mae'r feddyginiaeth yn gweithio drwy godi lefelau glutathione a rhwyma wrth gynhyrchion gwenwynig parasetamol.
Yn wreiddiol, gosodwyd asetylcystein oddi tan batent ym 1960 ac fe drwyddedwyd ym 1968. Ymddengys ar Restr Meddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd, y meddyginiaethau mwyaf effeithiol a diogel sydd eu hangen mewn system iechyd. Gellir cael mynediad iddo fel meddyginiaeth generig, ac o ran cost, y mae'n weddol resymol.[3]
Fe'i rhoddir fel triniaeth ar gyfer gwahanol gyflyrau meddygol, gan gynnwys:
Caiff cyffuriau eu hadnabod gan amryw o enwau gwahanol yn aml. Enw cemegol y cyffur hen yw Acetylcystein, ond rhoddir enwau masnachol a brand iddo hefyd, gan gynnwys;
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.