AK-47
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae'r AK-47, yn swyddogol yr Avtomat Kalashnikova (Rwsieg: Автома́т Кала́шникова, 'Reiffl ymosod Kalashnikov'), sydd hefyd yn cael ei alw'n Kalashnikov neu'n AK, yn reiffl ymosod 7.62 × 39mm a weithredir ar nwy a ddatblygwyd yn yr Undeb Sofietaidd gan Mikhail Kalashnikov yn dilyn yr Ail Ryfel Byd. Mae'r rhif 47 yn cyfeirio at y flwyddyn y cafodd ei orffen.
Enghraifft o'r canlynol | firearm model |
---|---|
Math | reiffl ymosod |
Gwlad | Yr Undeb Sofietaidd |
Dechrau/Sefydlu | 1947 |
Hyd | 87 centimetr |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Dechreuodd y gwaith dylunio ar yr AK-47 ym 1945. Fe’i cyflwynwyd ar gyfer treialon milwrol swyddogol y flwyddyn ganlynol, ac ym 1948 cyflwynwyd y fersiwn stoc sefydlog i wasanaeth gweithredol gydag unedau o’r Fyddin Sofietaidd. Datblygiad cynnar o'r dyluniad oedd yr AKS (Skladnoy, neu 'plygu'), a oedd â stoc ysgwydd metel a oedd yn plygu. Yn gynnar yn 1949, derbyniwyd yr AK yn swyddogol gan y Lluoedd Arfog Sofietaidd[1] a'i ddefnyddio gan fwyafrif aelod-wladwriaethau Cytundeb Warsaw.