From Wikipedia, the free encyclopedia
Hanesydd o Gymru oedd yr Athro Arthur Herbert Dodd (1891 - 21 Mai 1975), a arbenigai yng nghyfnod y Tuduriaid a'r Stiwardiaid yng Nghymru ac yn hanes y Chwyldro Diwydiannol.
A. H. Dodd | |
---|---|
Ganwyd | 1891 |
Bu farw | 21 Mai 1975 |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | hanesydd |
Ganed Dodd yn Wrecsam, lle roedd ei dad Charles yn brifathro. Roedd tueddiadau academaidd yn y teulu; daeth un o'i dri brawd, C. H. Dodd, i amlygrwydd fel ysgolhaig yn arbenigo ar y Testament Newydd. Aeth i Ysgol Ramadeg Wrecsam ac yna i Goleg Newydd, Rhydychen ym 1911. Wedi graddio mewn hanes, ymunodd â chorfflu meddygol y fyddin (RAMC) ym 1914.
Penodwyd ef yn ddarlithydd yng Ngholeg Prifysgol Bangor ym 1919, ac ym 1930 dilynodd Syr John Edward Lloyd fel Athro Hanes yno. Bu hefyd yn dysgu yn yr Adran Efrydiau Allanol a Chymdeithas Addysg y Gweithwyr. Ymddeolodd ym 1958, ond bu'n gweithio wedyn fel curadur Amgueddfa Bangor ac yn dysgu yng Ngholeg y Normal, Bangor.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.