Édouard Manet
From Wikipedia, the free encyclopedia
Arlunydd o Ffrancwr oedd Édouard Manet (23 Ionawr 1832 - 30 Ebrill 1883), sy'n adnabyddus fel un o'r enwocaf o'r Argraffiadwyr (Ffraneg: Impressionnistes). Bu'n un o'r arlunwyr cyntaf y 19g i beintio bywyd y cyfnod ac yn ffigwr allweddol yn y newid o Realaeth i Argraffiadaeth (Impressionnisme).[1]
Édouard Manet | |
---|---|
Ganwyd | 23 Ionawr 1832 former 10th arrondissement of Paris |
Bu farw | 30 Ebrill 1883 8fed Bwrdeisdref Paris, Paris |
Man preswyl | 8fed Bwrdeisdref Paris |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Alma mater | |
Galwedigaeth | arlunydd, darlunydd, lithograffydd, drafftsmon, drafftsmon |
Adnabyddus am | The Fifer, Street Singer, Lola de Valence, Luncheon on the Grass, Olympia |
Arddull | portread, peintio genre, bywyd llonydd, celf tirlun, paentiadau crefyddol |
Prif ddylanwad | Thomas Couture |
Mudiad | Argraffiadaeth |
Tad | Auguste Manet |
Mam | Eugénie-Désirée Fournier |
Priod | Suzanne Manet |
Plant | Léon Leenhoff |
Perthnasau | Berthe Morisot |
Gwobr/au | Chevalier de la Légion d'Honneur |
llofnod | |
- Mae "'Manet'" yn ailgyfeirio i'r dudalen hon. Ni ddylid cymysgu rhwng Manet a Monet, arlunydd arall o'r un cyfnod.
Achosodd ei weithiau enwog cynnar Le Déjeuner sur l'herbe (Picnic ar y Gwair) ac Olympia gryn syndod pan arddangoswyd yn gyntaf. Yn ddiweddarach roedd y gweithiau yma'n hynod o bwysig yn natblygiad celf fodern gan ddylanwadu’n fawr y cenedlaethau nesaf o arlunwyr.
Wedi'i geni a magu ym Mharis, yn fab i deulu cyfoethog. Fe'i hyfforddodd gyda Thomas Couture. Roedd ei waith yn seiliedig ar y chwarae rhwng cysgod a golau, gyda nifer cyfyngedig o liwiau gan wneud defnydd pwysig o ddu. Bu hefyd yn peintio'n syth o'r model. Roedd gwaith yr arlunydd Sbaeneg Diego Velázquez (1599-1660) yn ddylanwad mawr ar ei steil.
Ym Mharis fe gymysgodd gydag ysgrifenwyr avant-garde, yn fwyaf nodweddiadol gyda Baudelaire a ymddangosodd yn ei ddarlun Y Gerddoriaeth yng Ngerddi Tuileries. Daeth ei waith yn enwog trwy 'Salon des Refusés', arddangosfa o ddarluniau a wrthodwyd gan y sefydliad Salon swyddogol.
Ym 1869 a 1987 cynhaliodd arddangosfeydd un-dyn. Yn yr 1870au, o dan ddylanwad Claude Monet a Renoir, beintiodd dirluniau a golygfeydd o strydoedd wedi'u dylanwadau gan Argraffiadaeth (Impressionnisme). Serch hynny bu'n gyndyn i arddangos ei waith gyda'r impressionnistes gan obeithio am gydnabyddiaeth y Salon.