Wicipedia:Ar y dydd hwn/13 Hydref
From Wikipedia, the free encyclopedia
13 Hydref Gŵyl mabsant Sant Edwin, a laddwyd gan y Brenin Cadwallon ym Mrwydr Meicen (Hatfield)
- 1278 (745 blynedd yn ôl) – priododd Llywelyn ap Gruffudd ac Elinor de Montfort yn Eglwys Gadeiriol Caerwrangon
- 1899 (124 blynedd yn ôl) – bu farw Charles Ashton, hanesydd llenyddiaeth Gymraeg
- 1906 (117 blynedd yn ôl) – cynhyrchwyd trydan drwy egni dŵr o Lyn Llydaw yn Nant Gwynant; y system cyntaf o'i bath drwy wledydd Prydain
- 1970 (53 blynedd yn ôl) – ganwyd y chwaraewr rygbi'r undeb Rob Howley ym Mhen-y-bont ar Ogwr
- 2004 (19 blynedd yn ôl) – bu farw Bernice Rubens, nofelydd yn yr iaith Saesneg