Wganda
From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwlad yn nwyrain Affrica yw Gweriniaeth Wganda, neu Wganda yn syml (hefyd Iwganda). Mae De Swdan i'r gogledd ohoni, Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo (Kinshasa) i'r gorllewin, Rwanda a Tansanïa i'r de, a Cenia i'r dwyrain. Nid oes iddi arfordir, a hi yw'r ail wlad o'r fath ar ôl Ethiopia. Mae Wganda wedi ei lleoli yn Ardal y Llynnoedd Mawrion ac mae rhan deheuol y wlad yn cynnwys talp enfawr o Lyn Victoria. Mae hefyd ym masn a tharddle'r Afon Nîl ac mae ei hinsawdd yn amrywiol, ond gan mwyaf yn gyhydeddol.
Arwyddair | For God and My Country |
---|---|
Math | gwladwriaeth sofran, gweriniaeth, gwlad dirgaeedig, gwlad |
Prifddinas | Kampala |
Poblogaeth | 47,123,531 |
Sefydlwyd | |
Anthem | Oh Uganda, Land of Beauty |
Pennaeth llywodraeth | Robinah Nabbanja |
Cylchfa amser | UTC+03:00, Africa/Kampala |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg, Swahili |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Dwyrain Affrica |
Gwlad | Wganda |
Arwynebedd | 241,038 ±1 km² |
Yn ffinio gyda | Cenia, De Swdan, Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, Rwanda, Tansanïa, Swdan, Llyn Victoria |
Cyfesurynnau | 1.3°N 32.4°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Government of Uganda |
Corff deddfwriaethol | Parliament of Uganda |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd Wganda |
Pennaeth y wladwriaeth | Yoweri Museveni |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Wganda |
Pennaeth y Llywodraeth | Robinah Nabbanja |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $40,510 million, $45,559 million |
Arian | Ugandan shilling |
Canran y diwaith | 4 ±1 canran |
Cyfartaledd plant | 5.775 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.525 |
Mae hi'n wlad annibynnol ers 1962 pan dorrodd yn rhydd o'r Deyrnas Unedig. Prifddinas a dinas fwyaf Wganda heddiw yw Kampala. Tarddiad ei henw yw Brenhiniaeth Bwganda, hen frenhiniaeth yn ne'r wlad sydd hefyd yn cynnwys Kampala. Hyd at 1,700-2,300 blynedd yn ôl, helwyr oedd pobl yr ardal; daethant a'r iaith Bantw gyda nhw gan gartrefu yn rhannau deheuol y wlad yn gyntaf.
Bu Ymerodraeth Prydain yn rheoli'r ardal o 1894 ymlaen, fel protectoriaeth (protectorate) a ddaeth a'i deddfau gyda hi er mwyn rheoli'r wlad yn ei dull hi. Daeth annibyniaeth ar 9 Hydref 1962 a lladdwyd llawer ym mrwydr y wlad dros annibyniaeth a chlwyfwyd degau o filoedd o'r brodorion.
Mae rhai pethau wedi goroesi o'r dyddiau Prydeinig hynny gan gynnwys y Saesneg, sy'n brif iaith swyddogol y wlad.[1] Ymhlith yr ieithoedd eraill y mae Lwganda, a siaredir gan lawer, yn enwedig yng nghanol y wlad; ceir hefyd y Runyoro, Runyankole, Rukiga a'r Lango. Arlywydd y wlad (2020) yw Yoweri Museveni, a ddaeth i rym yn Ionawr 1986.