Tre war Venydh
From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref a phlwyf sifil ar arfordir yng Nghernyw, De-orllewin Lloegr, yw Tre war Venydh[1] (Saesneg: Tintagel[2] neu Trevena ). "Trevena" oedd enw'r pentref nes i Swyddfa'r Post ddechrau defnyddio "Tintagel" yn y 19g. Tan hynny, roedd "Tintagel" wedi'i gyfyngu i enw'r pentir a'r plwyf.
Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
Math | pentref, plwyf sifil |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Cernyw |
Gwlad | Cernyw Lloegr |
Arwynebedd | 19.73 km² |
Cyfesurynnau | 50.663°N 4.75°W |
Cod SYG | E04011590 |
Cod OS | SX057884 |
Cod post | PL34 |
Cau
Am y castell, gweler Castell Tintagel.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 1,782.[3]
Mae yno hen gastell, sy'n gysylltiedig â chwedl y brenin Arthur ers cyn y 12g.[4] Yr adeilad mwyaf diddorol yn y pentref yw'r hen bost, sy'n dyddio o'r 14g, ac sy'n awr yn eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.