Tor-cyfraith cyfundrefnol yn yr Unol Daleithiau
From Wikipedia, the free encyclopedia
Ers ei gychwyn, mae tor-cyfraith cyfundrefnol yn Unol Daleithiau America wedi datblygu o fewn cylchoedd ethnig. Yn niwedd y 19g ymddangosodd y Maffia Eidalaidd mewn dinasoedd mawr yr Unol Daleithiau, ac ymhen fawr o dro buont yn cystadlu â chriwiau Iddewig a Gwyddelig am fonopolïau troseddol. Bu'r Maffia Americanaidd ar ei anterth o oes y Gwaharddiad (1920–33) hyd at y 1960au. Blodeuai pob math o drosedd yn sgil y 18fed Gwelliant i'r Cyfansoddiad, a waharddai gwerthu, cynhyrchu, a mewnforio alcohol yn yr Unol Daleithiau, wrth i'r Maffia fanteisio ar gyfleoedd i fragu cwrw a distyllio gwirodydd yn anghyfreithlon, a'u smyglo a gwerthu ar draws y wlad. Erbyn i'r 18fed Gwelliant gael ei ddirymu ym 1933, roedd y Maffia yn sefydliad cenedlaethol a chanddo ddylanwad ac adnoddau mewn dinasoedd mwyaf yr Unol Daleithiau. Heb reolaeth dros y fasnach alcohol bellach, trodd y maffiosi at weithgareddau anghyfreithlon eraill. Datblygodd hierarchaethau yn debyg i gwmnïau cyfreithlon, a'r Maffia ar ffurf cartél wedi ei rannu yn "deuluoedd" neu syndicetiau a chanddynt gyfrifoldeb dros ddinasoedd gwahanol.
Defnyddiodd y Maffia sawl dull i herio'r gyfraith, gan gynnwys bygythiadau a thrais yn erbyn dioddefwyr a thystion, rhag iddynt hysbysu'r awdurdodau neu dystio yn ei erbyn; ymyrryd â'r rheithgor neu lwgrwobrwyo'r barnwr mewn achos llys; a thalu'r heddlu i oddef gweithgarwch y Maffia o fewn awdurdodaeth benodol. Mae tor-cyfraith cyfundrefnol wedi ei alluogi i raddau gan barodrwydd nifer o Americanwyr i oddef gweithgareddau anghyfreithlon a ystyrir yn droseddau di-ddioddef neu'n wendidau personol, er enghraifft gamblo neu'r diwydiant rhyw. O ganlyniad i'r fath agweddau, mae'r cyhoedd yn debycach o ariannu'r economi danddaearol, a'r awdurdodau yn debycach o anwybyddu'r tor-cyfraith i raddau. Mae'r rheiny a mân-droseddau tebyg yn darparu ffynhonnell economaidd ar gyfer nodweddion eraill sydd yn dreisgar ac yn ddinistriol i gymunedau.[1] Prif fasnachau tor-cyfraith cyfundrefnol yn yr Unol Daleithiau yw gamblo anghyfreithlon a'r fasnach gyffuriau, ac yn ogystal daw arian o fentrau lled-gyfreithlon megis usuriaeth a chasglu ar fenthyciadau drwy drais, a racetirio busnesau er mwyn prosesu arian yn anghyfreithlon. Defnyddir swyddfeydd gwerthu tai, cwmnïau casglu sbwriel, siopau glanhau dillad, a chynnal peiriannu gwerthu yn aml fel cwmnïau ffrynt am dor-cyfraith, yn ysglyfaeth am gynlluniau diogelu, neu yn fonopolïau i'w cynnal drwy drais a braw. Trosedd cyffredin yw herwgipio lorïau a lladrata'r nwyddau sydd ynddynt er mwyn eu gwerthu yn y farchnad ddu. Maent hefyd yn treiddio ac yn esbloetio undebau llafur, er enghraifft drwy embeslu o gronfeydd ariannol yr undeb.