Set deledu
From Wikipedia, the free encyclopedia
Dyfais electronig yw'r set deledu (neu fel arfer, yn syml, teledu) a ddefnyddir mewn cartrefi i wylio'r hyn sy'n cael ei ddarlledu neu ei lawrlwytho o'r we: rhaglenni dogfen, ffilmiau, newyddion y dydd ayb. Cyflwynwyd y teledu analog yn fasnachol ar ddiwedd y 1920au, a daeth yn hynod o boblogaidd wedi'r Ail Ryfel Byd gyda'r tiwb pelydrau catod yn rhan hanfodol ohono. Du a gwyn oedd y lluniau tan y 1960au ac roedd y teledu yr adeg honno, o ran siap, yn debyg i giwboid; mewn rhai llefydd galwyd ef yn focs. Ystyrir y teledu yn un o brif nwyddau traul y byd.
Pan ddyfeisiwyd Betamax, VHS a DVD, defnyddid y teledu er mwyn gwylio'r cynnwys: ffilmiau ayb. A'r teledu hefyd oedd y ddyfais a ddefnyddiwyd ar gyfer y cyfrifiadur personol, pan ddaeth hwnnw i olau dydd yn ei ffurf cynharaf e.e. Timex Sinclair 1000, a'r consol gemau e.e. Atari, yn nechrau'r 1980au. Yn y 2010au gwelodd y 'llen deledu' olau dydd ar ffurf LED LCD, a daeth oes y tiwb pelydrau catod i ben.[1] Mae datblygiadau diweddar ym myd teledu yn cynnwys teledu digidol a ddaeth ar ddechrau'r 21g, teledu 3D, a theledu cadraniad uchel (HDTV: 720p, 1080i a 1080p).[2][3] [4] [5] [6]
Bathwyd y term Cymraeg 'teledu' gan Cassie Davies, Dan Richards ac Urien Wiliam yn 1953 a hynny ar wahan i'w gilydd.[7]