Perifferolyn
From Wikipedia, the free encyclopedia
Dyfais neu declyn ategol a ddefnyddir i roi gwybodaeth a data i mewn ac allan o gyfrifiadur yw perifferolyn.[1][2]
Ceir tri chategori o ddyfeisiau perifferol: dyfais mewnbynnu, dyfais allbynnu a dyfais deubwn (mewnynnu ac allbynnu):
- dyfais mewnbynnu: llygoden, bysellfwrdd, tabled cyfrifiadurol a graffeg, sganiwr, darllenwr cod bar, rheolwr gemau, pin golau, meicroffon, camera digidol, gwe-gam (web cam) a ROM
- dyfais allbynnu: sgrin cyfriaifiadurol, taflunydd, argraffydd, argraffu 3D, clustffonau a seinyddion
- dyfais deubwn: storfa ddata e.e. co bach a'r Cof RAM
Mae gan y ffôn clyfar a'r tabled cyfrifiadurol ryngwyneb a meddalwedd priodol i gasglu data a'i allbynnu, hefyd e.e. monitro curiad y galon neu'r tymheredd.