Octopws
From Wikipedia, the free encyclopedia
Molwsg meddal o gorff gydag wyth braich o urdd yr Octapoda yw'r octopws (ll. octopysau). Mae'r urdd yn cynnwys tua 300 o rywogaethau ac mae wedi'i grwpio o fewn y dosbarth Cephalopoda gyda'r môr-lewys, yr ystifflogod a'r cregyn Pedr. Tebyg i seffalopodau eraill, mae gan yr octopws gymesuredd dwyochrol gyda dau lygad a cheg ylfinog yng nghanolbwynt yr wyth braich. Gall y corff meddal newid ei siâp yn llwyr, gan alluogi octopysau i ymwasgu trwy fylchau bach. Tra'n nofio, mae'r corff ar y blaen a daw'r breichiau'n olaf.
Octopws Amrediad amseryddol: Jwrasig canol – presennol | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Mollusca |
Dosbarth: | Cephalopoda |
Is-ddosbarth: | Coleoidea |
Urdd: | Octopoda (Leach, 1818) |
Isurddau | |
(traddodiadol)
| |
Cyfystyron | |
|
Defnyddir yr organ a elwir yn seiffon i respiradu ac ymsymud trwy allyrru jet dŵr. Mae gan octopysau system nerfol gymhleth a golwg craff; maent ymhlith yr infertebratau mwyaf deallus ac amrywiol o ran ymddygiad.
Triga octopysau mewn rhanau gwahanol y môr, gan gynnwys riffiau cwrel, dyfroedd dyfnion iawn, ac ar wely'r môr. Mae'r rhan fwyaf o rywogaethau'n tyfu'n gyflym, yn aeddfedu'n gynnar, ac yn fyrhoedlog. Yn y rhan fwyaf o rywogaethau, mae'r gwryw yn defnyddio braich sydd wedi'i hymaddasu'n arbennig i ddosbarthu bwndel o sberm yn uniongyrchol i geudod mantell y fenyw, ac ar ôl hynny mae'n heneiddio ac yn marw, tra bod y fenyw yn dodwy'r wyau mewn ffau ac yn gofalu amdanynt nes eu bod yn deor; ar ôl hynny mae hithau'n marw. Mae eu strategaethau i amddiffyn eu hunain rhag ysglyfaethwyr yn cynnwys diarddel inc du, defnyddio cuddliw, arddangosiadau bygythiad, y gallu i chwipio'n gyflym trwy'r dŵr a chuddio. Mae pob octopws yn wenwynig, ond dim ond yr octopysau torchog (neu fodrwyog) sy'n farwol i bobl.
Mae octopysau'n ymddangos mewn chwedloniaeth fel bwystfilod e.e. y ceffyl dŵr Norwy ac akkorokamui yr Ainŵaid, ac mae'n debyg gorgon y Groegiaid gynt. Mae brwydr ag octopws yn ymddangos yn llyfr Victor Hugo Toilers of the Sea, sy'n ysbrydoli gweithiau eraill fel Octopussy Ian Fleming. Ceir hefyd octopysau yn ymddangos mewn celf erotig Japaneaidd, shunga. Bwyteir yr octopws a chant eu hystyried yn ddanteithfwyd gan bobl mewn sawl rhan o'r byd, yn enwedig Môr y Canoldir a moroedd Asia.