Miley Cyrus
actwr a chanwr-gyfansoddwr / From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Miley Ray Cyrus (ganwyd Destiny Hope Cyrus ar 23 Tachwedd 1992[1]) yn actores, cantores a chyfansoddwraig Americanaidd. Mae hi'n fwyaf enwog am serennu fel Miley Stewart/Hannah Montana yn y gyfres deledu Hannah Montana ar Sianel Disney.
Miley Cyrus | |
---|---|
Ffugenw | Miley Cyrus |
Ganwyd | Destiny Hope Cyrus 23 Tachwedd 1992 Nashville, Tennessee |
Man preswyl | Los Angeles, Franklin, Tennessee |
Label recordio | RCA Records, Columbia Records, Walt Disney Records, Hollywood Records |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr-gyfansoddwr, actor llais, cerddor, actor teledu, actor ffilm, canwr, actor |
Adnabyddus am | Hannah Montana, The Last Song |
Arddull | cerddoriaeth boblogaidd, canu gwlad, roc poblogaidd, pop dawns, electropop, cerddoriaeth roc, hip hop, teen pop, pop gwlad |
Math o lais | mezzo-soprano, contralto |
Prif ddylanwad | Elvis Presley, Madonna, Dolly Parton, Timbaland, Joan Jett, Lil' Kim, Luisito Comunica, Hanson, OneRepublic, Britney Spears |
Plaid Wleidyddol | plaid Ddemocrataidd |
Tad | Billy Ray Cyrus |
Mam | Tish Cyrus |
Priod | Liam Hemsworth |
Partner | Nick Jonas, Justin Gaston, Liam Hemsworth, Cody Simpson, Patrick Schwarzenegger, Lucas Till, Josh Bowman, Pete Davidson |
Gwobr/au | Gwobr Time 100, Gwobr Grammy |
Gwefan | https://MileyWorld.com/ |
llofnod | |
Daeth Cyrus yn enwog pan ddechreuodd Hannah Montana ym Mawrth 2006. Yn sgil llwyddiant y sioe, rhyddhawyd CD i gyd-fynd â'r gyfres yn Hydref 2006 lle canodd Cyrus wyth cân o'r sioe. Yn Rhagfyr 2007, cafodd Cyrus ei gosod ar rif 17 ar restr Forbes o bobl ifanc o dan 25 oed sy'n ennill fwyaf o arian gyda chyflog blynyddol o $3.5 miliwn Americanaidd. Ers mis Rhagfyr 2007, mae hi wedi bod yn gweithio ar ffilm o'r enw Hannah Montana: The Movie sy'n deillio o lwyddiant Hannah Montana. Disgwylir i'r ffilm gael ei rhyddhau ar 10 Ebrill, 2009.[2]
Dechreuodd gyrfa gerddorol Cyrus pan ryddhawyd ei halbwm cyntaf, Meet Miley Cyrus ar y 23ain o Fehefin, 2007. Rhyddhawyd ei hail albwm, Breakout ar 22 Gorffennaf, 2008. Breakout yw albwm cyntaf Cyrus na sydd yn gysylltiedig â'r rhyddfraint Hannah Montana. Aeth y ddau albwm yn syth i rif 1 y Billboard 200.
Yn 2008, rhestrwyd Cyrus ymysg y 100 artist a diddanwr mwyaf dylanwadol yn y byd yng nghylchgrawn Time.