Llên Lloegr yn y 18fed ganrif
From Wikipedia, the free encyclopedia
Yn gyffredinol, rhennir llên Lloegr yn y 18g yn ddau brif gyfnod—yr Oes Awgwstaidd ac Oes Johnson—sydd yn barhad o'r newydd-glasuriaeth a gychwynnwyd gan lenorion yr Adferiad yn ail hanner y ganrif gynt. Sonir yn aml hefyd am Oes Teimladrwydd, sydd yn gyffredinol yn cyd-daro ag Oes Johnson yn ail hanner y ganrif. Ar ddiwedd y 18g dygwyd Rhamantiaeth i lên Lloegr, mudiad a adeiladodd ar draddodiadau'r beirdd natur a beirdd y fynwent a flodeuasant yng nghanol y ganrif. Mae rhan fwyaf y 18g yn cyd-daro â'r oes Sioraidd, sef teyrnasiadau'r brenhinoedd Hanoferaidd Siôr I (1714–27), Siôr II, (1727–60), a Siôr III. Er defnyddir yr ansoddair "Sioraidd" i gyfeirio at bensaernïaeth a dodrefn, hanes cymdeithasol, a gwleidyddiaeth y cyfnod hwn, yn anaml fe'i defnyddir i ddisgrifio llenyddiaeth, o bosib er mwyn osgoi cymysgu â'r beirdd Sioraidd, criw o feirdd a flodeuai yn Lloegr yn y 1910au.[1] Defnyddir yr enw "y 18g hir" gan nifer o hanesyddion Seisnig i gyfeirio at y cyfnod o'r Adferiad (1660), neu'r Chwyldro Gogoneddus (1688), hyd at ddiwedd Rhyfeloedd Napoleon ym 1815. Yn nhermau hanes llenyddol Lloegr, mae'r 18g hir yn cyfateb i holl gyfnod newydd-glasuriaeth (yr Adferiad, Awgwstaidd, a Johnson) a thrwch y cyfnod Rhamantaidd.
Pasiwyd Statud Ann, neu'r Ddeddf Hawlfraint, gan Senedd Prydain Fawr yn 1710 i ddarparu hawlfraint i'r awdur dros ei waith. Pasiwyd y Ddeddf Drwyddedu yn 1737 gan roddi i'r Arglwydd Siambrlen yr hawl i sensro pob drama a berfformiwyd yn y wlad.