Llwybr Arfordirol Ynys Môn
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Llwybr Arfordirol Ynys Môn yn llwybr hir o 200 km/125 milltir o gwmpas arfordir Ynys Môn, y rhan fwyf ohono o fewn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Crëwyd y llwybr fel rhwydwaith o lwybrau cyhoeddus a llwybrau trwy ganiatâd. Mae’n ffurfio cylch o gwmpas yr ynys heblaw am fylchau yn Llanfachraeth ac ystâd Plas Newydd ac yn rhan o Lwybr yr Arfordir. Mae'n un o wyth llwybr rhanbarthol ar Lwybr Arfordir Cymru, sy'n 870 milltir o hyd ac a agorwyd yn 2012.[1]
Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
Math | llwybr, hiking trail |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.1348°N 4.4147°W |
Hyd | 200 cilometr |
Cau
Mae arwyddion amlwg ar hyd y llwybr cyfan.
Crëwyd y llwybr mewn partneriaeth rhwng Menter Môn a Chyngor Sir Ynys Môn. Agorwyd y llwybr yn ffurfiol gan Rhodri Morgan AC, Prif Weinidog Cymru, ar 9 Mehefin 2006.