Elon Musk
mentrwr Americanaidd a anwyd yn Ne Affrica / From Wikipedia, the free encyclopedia
Dyn busnes a buddsoddwr De Affricanaidd-Americanaidd yw Elon Reeve Musk. Yn Rhagfyr 2023 ef oedd person cyfoethoca'r byd, gydag amcangyfrif o werth net o US$222 biliwn, yn ôl Bloomberg Billionaires Index, a $244 biliwn yn ôl Forbes, yn bennaf o ganlyniad i'w gwmniau Tesla a SpaceX.[1] Ef yw sylfaenydd, cadeirydd, Prif Swyddog Gweithredol a phrif swyddog technoleg SpaceX; mae hefyd yn Brif Swyddog Gweithredol, pensaer cynnyrch a chyn-gadeirydd Tesla, Inc.; mae'n berchennog, cadeirydd a CTO o X Corp.; sylfaenydd y Boring Company a xAI; cyd-sylfaenydd Neuralink ac OpenAI a yn llywydd Sefydliad Musk.
Elon Musk | |
---|---|
Ganwyd | Elon Reeve Musk 28 Mehefin 1971 Pretoria |
Man preswyl | Bel Air, Saskatchewan, Kingston, Boca Chica |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | rhaglennwr, peiriannydd, entrepreneur, buddsoddwr, person busnes |
Swydd | prif weithredwr, prif swyddog technoleg, cadeirydd, prif gyfarwyddwr, llywydd ar-y-cyd, prif weithredwr |
Cyflogwr | |
Tad | Errol Musk |
Mam | Maye Musk |
Priod | Justine Musk, Talulah Riley, Talulah Riley |
Partner | Amber Heard, Grimes, Shivon Zilis |
Plant | Nevada Musk, Vivian Jenna Wilson, Griffin Musk, Damian Musk, John saxon musk, Kai Musk, Exash Musk, Strider Musk, Azure Musk, Exa Musk, Tau Musk |
Perthnasau | Lyndon Rive, Jana Bezuidenhout |
Llinach | Y Muskiaid |
Gwobr/au | gradd er anrhydedd, doctor honoris causa, Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Gold Medal of the Royal Aeronautical Society, Time Person of the Year, Gwobr Time 100, Financial Times Person of the Year, Medal John Fritz, Gwobr Time 100, NSS Wernher Von Braun Memorial Award, Great Immigrants Award, Axel Springer Award, Stephen Hawking Medal For Science Communication, Edison Awards, Heinlein Prize for Advances in Space Commercialization, Living Legends of Aviation, Order of Defence Merit, Member of the National Academy of Engineering, honorary doctor of the Yale University |
llofnod | |
Yn aelod o deulu cyfoethog Musk De Affrica, ganed Elon yn Pretoria a mynychodd Brifysgol Pretoria am gyfnod byr cyn ymfudo i Ganada yn 18 oed, gan gaffael dinasyddiaeth trwy ei fam a aned yng Nghanada. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, aeth i Brifysgol Queen's yn Kingston yng Nghanada. Yn ddiweddarach trosglwyddodd Musk i Brifysgol Pennsylvania, a derbyniodd raddau baglor mewn economeg a ffiseg. Symudodd i Galifornia yn 1995 i fynychu Prifysgol Stanford. Fodd bynnag, rhoddodd Musk y gorau ar ôl dau ddiwrnod a, gyda'i frawd Kimbal, cyd-sefydlodd y cwmni meddalwedd ar-lein Zip2. Prynwyd y cwmni cychwynnol hwn gan Compaq am $307 miliwn ym 1999, ac yn yr un flwyddyn, cyd-sefydlodd Musk X.com, banc uniongyrchol. Unodd X.com â Confinity yn 2000 i ffurfio PayPal.
Yn Hydref 2002, prynnodd eBay y cwmni bancio arlein PayPal am $1.5 biliwn, a'r un flwyddyn, gyda $100 miliwn o'r arian sefydlodd Musk SpaceX, cwmni gwasanaethau hedfan i'r gofod. Yn 2004, daeth yn fuddsoddwr cynnar yn y gwneuthurwr cerbydau trydan Tesla Motors, Inc. (Tesla, Inc. bellach). Daeth yn gadeirydd a phensaer y cynnyrch, gan gymryd swydd Prif Swyddog Gweithredol yn 2008. Yn 2006, aeth Musk ati i greu SolarCity, cwmni ynni solar a gaffaelwyd gan Tesla yn 2016 ac a newidiodd ei enw i Tesla Energy. Yn 2013, cynigiodd system gludo trenau tiwb-faciwm, cyflym. Cyd-sefydlodd OpenAI yn 2015, cwmni ymchwil deallusrwydd artiffisial dielw. Y flwyddyn ganlynol, cyd-sefydlodd Musk Neuralink - cwmni niwrodechnoleg sy'n datblygu rhyngwynebau ymennydd-cyfrifiadur - a'r Boring Company, cwmni adeiladu twneli ar gyfer y trenau tiwb-faciwm. Yn 2022, prynodd Twitter am $44 biliwn. Wedi hynny, unodd y cwmni gyda X Corp. a oedd newydd ei greu ac ailfrandio'r gwasanaeth fel X y flwyddyn ganlynol. Ym Mawrth 2023, sefydlodd xAI, cwmni deallusrwydd artiffisial.
Mae Musk wedi mynegi safbwyntiau sydd wedi ei wneud yn ffigwr dadleuol, nad yw'n cydymffurfio a'r drefn na ffasiwn[2][3] Beirniadwyd ef am wneud datganiadau anwyddonol a chamarweiniol am COVID-19, trawsffobia[4], a chamddenhonglwyd ei sylwadau yn erbyn agwedd milwriaethus Llywodraeth Israel.[5][6][7][8] Mae ei berchnogaeth o Twitter wedi bod yr un mor ddadleuol, diswyddwyd nifer o weithwyr a dywedir fod y nifer o drydariadau cas wedi codi a bod gwybodaeth anghywir a diffyg gwybodaeth ar y wefan. Yn 2018, fe wnaeth Comisiwn Gwarantau a Chyfnewid yr Unol Daleithiau (SEC) ei siwio am drydar ar gam ei fod wedi sicrhau cyllid ar gyfer meddiannu Tesla yn breifat. I setlo'r achos, ymddiswyddodd Musk fel cadeirydd Tesla a thalu dirwy o $20 miliwn.