Corwen
tref a chymuned yn Sir Ddinbych / From Wikipedia, the free encyclopedia
Tref fach a chymuned yn Sir Ddinbych, yw Corwen. Saif yn Nyffryn Edeirnion ar lôn yr A5 rhwng Betws-y-Coed (23 milltir) a Llangollen (11 milltir). I'r gogledd mae Rhuthun (13 milltir) ac i'r de y mae'r Bala (12 milltir).
Math | cymuned, tref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Ddinbych |
Gwlad | Cymru |
Yn ffinio gyda | Cynwyd |
Cyfesurynnau | 52.98°N 3.379°W |
Cod SYG | W04000147 |
Cod OS | SJ075435 |
Cod post | LL21 |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Ken Skates (Llafur) |
AS/au | Simon Baynes (Ceidwadwyr) |
Mae Afon Dyfrdwy yn llifo heibio i'r dref. Yn yr Oesoedd Canol roedd Corwen yn rhan o gwmwd Dinmael. Mae gan y dref gysylltiadau ag Owain Glyndŵr; cymysg fu'r ymateb i'r cerflun cyntaf o'r arwr a godwyd ar y sgwâr, ond mae'r Tywysog ar ei farch (gweler y llun) wedi'i dderbyn gyda breichiau agored. Yn flynyddol ers 2009 ceir gorymdaith drwy'r dref a dathliadau dros gyfnod o ddeuddydd i ddathlu Diwrnod Glyn Dŵr (Medi 16). Ceir hefyd hen domen neu fwnt sef Castell Glyndŵr tua kilometr i'r dwyrain, i gyfeiriad y Waun.
Dyma ble'r oedd Pafiliwn Corwen.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Ken Skates (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Simon Baynes (Ceidwadwyr).[1][2]