Cemeg ffisegol
From Wikipedia, the free encyclopedia
Cemeg ffisegol yw'r astudiaeth o ffenomenau macrosgopig a gronynnol mewn systemau cemegol o ran egwyddorion, arferion, a chysyniadau o fewn ffiseg, megis mudiant, egni, grym, amser, thermodynameg, cemeg cwantwm, mecaneg ystadegol, deinameg ddadansoddol ac ecwilibria cemegol.
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Math ...
Darn o lawysgrif M. Lomonosov 'Cemeg Ffisegol' (1752) | |
Enghraifft o'r canlynol | cangen o fewn cemeg, disgyblaeth academaidd, pwnc gradd |
---|---|
Math | cemeg |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cau
Mae cemeg ffisegol, yn wahanol i ffiseg gemegol, yn wyddor facrosgopig neu uwch-folecwlaidd yn bennaf (ond nid bob amser), gan fod y mwyafrif o’r egwyddorion y’i seiliwyd arnynt yn ymwneud â’r swmp yn hytrach na’r strwythur moleciwlaidd/atomig yn unig (er enghraifft, ecwilibriwm cemegol a choloidau).
Ymhlith yr hyn y mae cemeg ffisegol yn ceisio'u datrys mae effeithiau:
- Grymoedd rhyngfoleciwlaidd sy'n gweithredu ar briodweddau ffisegol defnyddiau (plastigrwydd, cryfder tynnol a thensiwn arwyneb mewn hylifau).
- Cineteg adwaith ar gyfradd adwaith.
- Adnabyddiaeth ïonau a dargludedd trydanol deunyddiau.
- Gwyddoniaeth arwyneb ac electrocemeg cellbilenni. [1]
- Rhyngweithio un corff ag un arall o ran meintiau gwres a gwaith, a elwir yn thermodynameg .
- Trosglwyddo gwres rhwng system gemegol a'r ardal o'u cwmpas yn ystod newid cyfnod neu adwaith cemegol sy'n digwydd, ac a elwir yn thermocemeg
- Astudiaeth o briodweddau cydglymu nifer y rhywogaethau sy'n bresennol mewn hydoddiant.
- Gellir cydberthyn nifer y cyfnodau, nifer y cydrannau a graddau rhyddid (neu amrywiant) â'i gilydd gyda chymorth y rheol cyfnod.
- Adweithiau celloedd electrocemegol .
- Ymddygiad systemau microsgopig gan ddefnyddio mecaneg cwantwm a systemau macrosgopig gan ddefnyddio thermodynameg ystadegol.