Bae Copr
Cynllun adfywio dinesig yn y 2020au rhwng canol dinas Abertawe a'i harfordir ger hen safle Doc Fictoria / From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Bae Copr (Saesneg: Copr Bay) neu Bae Copr Abertawe, yn brosiect adnewyddu trefol anferthol ar gyfer canol dinas Abertawe ac ardal Doc Fictoria. Ariennir a datblygir Cam Un Bae Copr gan Gyngor Dinas a Sir Abertawe, gydag elfen arena’r cynllun yn cael ei hariannu’n rhannol gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe. Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe’n gronfa fuddsoddi gwerth £1.3 biliwn sy’n cynnwys arian gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a’r sector preifat er mwyn cwblhau prosiectau trawsnewid mawr yn yr ardal hon o dde Cymru.[1]
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Dechrau/Sefydlu ...
Enghraifft o'r canlynol | cynllunio trefol, adnewyddu trefol |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 2020s |
Lleoliad | Abertawe |
Gwladwriaeth | Cymru |
Cau