Mae ystadegyn ddisgrifiadol yn ystadegyn sy'n disgrifio neu'n crynhoi nodweddion casgliad o wybodaeth feintiol e.e. ystadegau, data. Ystadegath ddisgrifiadol yw'r broses o ddefnyddio ac analeiddio'r ystadegau hyn.[1]
Gwahaniaethir rhwng ystadegaeth ddisgrifiadol ac ystadegaeth gasgliadol (inferential) yn ôl bwriad neu amcan:
- ystadegaeth ddisgrifiadol - crynhoi casgliadau neu sampl
- ystadegaeth gasgliadol - defnyddio'r data i ddysgu am y boblogaeth a gynrychiolir (neu beidio!) gan y data.
Mae hyn, yn gyffredinol, yn golygu nad yw ystadegaeth ddisgrifiadol (yn wahanol i ystadegau gasgliadol) yn cael ei datblygu ar sail theori tebygolrwydd.[2] Ond pan ddefnyddir ystadegaeth gasgliadol i ddadansoddi data, mae ystadegau disgrifiadol hefyd yn cael eu cyflwyno. Er enghraifft, mewn papurau ar bynciau dynol, fel arfer, mae tabl wedi'i gynnwys gan roi maint y sampl, maint y sampl mewn is-grwpiau allweddol a nodweddion demograffig neu glinigol megis yr oedran cyfartalog, rhyw, cyfrifoldebau ac ati.
Ymhlith y mesuryddion a ddefnyddir yn aml i ddisgrifio set o ddata mae:
- mesuryddion canolduedd (central tendency), gan gynnwys cymedr, canolrif a modd
- mesuryddion amrywiant (measures of variability) neu wasgariad ystadegol, gan gynnwys gwyriadau safonol (neu "amrywiant"), gwerthoedd isafswm ac uchafswm y newidynnau, cwrtosis a sgiwedd.[3].[4]
Cyfeiriadau
Wikiwand in your browser!
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.