Ynys Cribinau

ynys lanwol yng Nghymru From Wikipedia, the free encyclopedia

Ynys Cribinau

Mae Ynys Cribinau yn ynys fechan oddi ar arfordir gorllewinol Ynys Môn, tua milltir a hanner o Aberffraw yng nghwmwd Malltraeth. Gellir croesi i'r ynys ar droed pan fo'r llanw'n isel.

Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
Ynys Cribinau
Thumb
Mathynys lanwol 
Daearyddiaeth
Gwlad Cymru
GerllawBae Caernarfon 
Cyfesurynnau53.185°N 4.493°W 
Thumb
Cau

Yr unig adeilad ar yr ynys yw Eglwys Llangwyfan, sydd wedi ei cysegru i Sant Cwyfan. Mae'r eglwys bresennol yn dyddio o'r 13g. "Yr eglwys yn y môr" yw'r enw lleol arni. Cynhelir gwasanaethau ynddi ac mae'n eglwys boblogaidd ar gyfer priodasau.

Mae mapiau o'r 17g yn dangos yr eglwys wedi'i chysylltu â'r tir mawr ond er hynny mae'r clogwyni clae wedi'u erydu gan y môr gan adael yr eglwys ar ei hynys. Mae mur amddiffynnol o gwmpas yr eglwys i'w hamddiffyn rhag y tonnau.

Thumb
Eglwys Gwyfan ar Ynys Cribinau

Gweler hefyd

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.