mynydd (923m) yng Ngwynedd From Wikipedia, the free encyclopedia
Mynydd yn Eryri wedi ei ffurfio trwy effaith rhewlifau yw Crib Goch (923m).
Math | mynydd, copa |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Parc Cenedlaethol Eryri |
Rhan o'r canlynol | Yr Wyddfa a'i chriw |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 923 metr |
Cyfesurynnau | 53.0755°N 4.0535°W |
Cod OS | SH6242455189 |
Manylion | |
Amlygrwydd | 65 metr |
Cyfnod daearegol | Ordofigaidd |
Rhiant gopa | Carnedd Ugain |
Cadwyn fynydd | Eryri |
Mae llwybr o Ben-y-Pass dros Garnedd Ugain i'r Wyddfa ar gefn cul y mynydd, a gellir gweld Glaslyn a Llyn Llydaw yn ogystal â Phen y Pas o'r mynydd. Beth bynnag, mae'n ddigon peryglus ar y grib am fod y gwynt yn gryf fel arfer. "Nid yw’n fynydd i’r dibrofiad", yn ôl Awdurdod y Parc Cenedlaethol.[1]
Ym 1974 darganfuwyd Powlen yr Wyddfa, powlen efydd o'r Oes Haearn ar Grib Goch.
Ysgrifennodd Thomas Rowland Hughes gerdd ynglŷn â'r grib. Mae'n annerch y darllenydd: "Gwaedda - " a thrwy hynny'n sylwi mor fach yw pobl o'u cymharu â mawredd y mynyddoedd.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.