William John Roberts (Gwilym Cowlyd)

bardd, argraffydd a llyfrwerthwr From Wikipedia, the free encyclopedia

William John Roberts (Gwilym Cowlyd)

Bardd Cymraeg, argraffydd a llyfrwerthwr oedd William John Roberts, (1828 – 6 Rhagfyr 1904), sy'n adnabyddus wrth ei enw barddol Gwilym Cowlyd. Roedd yn nai i Ieuan Glan Geirionydd.

Ffeithiau sydyn Ffugenw, Ganwyd ...
William John Roberts
Thumb
FfugenwGwilym Cowlyd 
Ganwyd1828 
Trefriw 
Bu farw6 Rhagfyr 1904 
Llanrwst 
Dinasyddiaeth Cymru
Galwedigaethbardd, argraffydd, llyfrwerthwr 
Cau

Bywgraffiad

Thumb
Rhai o feirdd Arwest Glan Geirionydd, tua 1875

Ganed Gwilym Cowlyd yn Nhrefriw yn yr hen Sir Gaernarfon (Sir Conwy erbyn hyn) yn 1828.

Yn 1863 sefydlodd orsedd a alwodd yn Orsedd Geirionydd i gystadlu a Gorsedd y Beirdd. Trefnodd Arwest Glan Geirionydd ar lan Llyn Geirionydd gyda'i gyd-feirdd Trebor Mai a Gethin Jones ("Gethin") am ei fod yn meddwl fod yr Eisteddfod Genedlaethol yn rhy Seisnigaidd.

Cyfansoddodd yr awdl "Mynyddoedd Eryri" a nifer o gerddi eraill a gyhoeddwyd gan ei wasg ef ei hun yn y gyfrol Y Murmuron yn 1868.

Claddwyd ef ym mynwent Eglwys Santes Fair, Llanrwst.

Cyhoeddiadau

  • Y Murmuron (Llanrwst, 1868)
  • (golygydd). Bywyd a Gweithiau Ieuan Glan Geirionydd
  • (golygydd). Gweithiau Gethin
  • Diliau'r Delyn
  • Cerddi'r Eryri, (Llanrwst 1887)

Llyfryddiaeth

  • Davies, Glynne Gerallt, Gwilym Cowlyd, 1828-1904 (Caernarfon: Llyfrfa'r Methodistiaid Calfinaidd, 1976).
Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur o Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.