hanesydd Sgotaidd ac ysgolhaig Celtaidd From Wikipedia, the free encyclopedia
Hanesydd a hynafiaethydd o'r Alban oedd William Forbes Skene (7 Mehefin 1809 - 29 Awst 1892).
William Forbes Skene | |
---|---|
William Forbes Skene, llun gan George Reid, c. 1888 | |
Ganwyd | 7 Mehefin 1809 Rubislaw |
Bu farw | 29 Awst 1892 |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | hanesydd |
Tad | James Skene o Rubislaw |
Mam | Jane Forbes |
Roedd yn fab i James Skene (1775–1864), o Rubislaw, ger Aberdeen, cyfaill i Syr Walter Scott. Addysgwyd ef yn Academi Caeredin a Phrifysgol St Andrews, gan gymeryd diddordeb arbennig mewn astudio ieithoedd a llenyddiaeth Geltaidd.
Yn 1837 cyhoeddodd The Highlanders of Scotland, their Origin, History and Antiquities. Bu'n gweithio i Lys y Sesiwn, yna yn 1847, yn ystod newyn yn Ucheldiroedd yr Alban, bu'n ysgrifennydd i'r Central Board for Highland Relief. Bu farw yng Nghaeredin ar 29 Awst 1892.
Ei brif waith oedd Celtic Scotland, a History of Ancient Alban (5 cyfrol, Caeredin, 1876-1880). Cyhoeddodd argraffiad o'r Chronica genus Scotorum gan John o Fordun (Caeredin, 1871–1872); The Four Ancient Books of Wales (Caeredin, 1868); Chronicles of the Picts and Scots (Caeredin, 1867); y Vita S. Columbae gan Adomnán (Caeredin, 1874); Essay on the Coronation Stone of Scone (Caeredin, 1869); a Memorials of the Family of Skene of Skene (Aberdeen, 1887).
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.