dinas yng Ngwlad y Basg From Wikipedia, the free encyclopedia
Vitoria-Gasteiz yw prifddinas Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg a phrifddinas talaith Araba. Yr enw Sbaeneg yw Vitoria a'r enw Basgeg yw Gasteiz; "Vitoria-Gasteiz" yw'r ffurf swyddogol. Poblogaeth y ddinas yw 255,886 (2023).
Math | bwrdeistref Sbaen |
---|---|
Prifddinas | Vitoria-Gasteiz City |
Poblogaeth | 255,886 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Maider Etxebarria |
Cylchfa amser | UTC+01:00 |
Gefeilldref/i | |
Nawddsant | Sancta Maria ad Nives |
Daearyddiaeth | |
Sir | Cuadrilla de Vitoria |
Gwlad | Gwlad y Basg Sbaen |
Arwynebedd | 276.81 km² |
Uwch y môr | 525 ±1 metr |
Gerllaw | Zadorra |
Yn ffinio gyda | Arratzua-Ubarrundia, Elburgo/Burgelu, Barrundia, Iruraiz-Gauna, Bernedo, Iruña de Oca/Iruña Oka, Kuartango, Zuia, Zigoitia, Condado de Treviño, La Puebla de Arganzón |
Cyfesurynnau | 42.8467°N 2.6731°W |
Cod post | 01001–01015 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | maer Vitoria-Gasteiz |
Pennaeth y Llywodraeth | Maider Etxebarria |
Perchnogaeth | Alfonso VIII of Castile, Alfonso X of Castile and Leon |
Sefydlwydwyd gan | Sancho VI of Navarre |
Sefydlwyd Gasteiz yn 1181 gan Sancho VI, brenin Navarra, fel Nueva Victoria. Yn 1200 daeth yn rhan o Deyrnas Castillia pan gipiwyd y dref gan Alfonso VIII, brenin Castilla. Yn 1431 cafodd yr hawl i'w galw ei hun yn ddinas.
Ymladdwyd Brwydr Vitoria ar 21 Mehefin 1813, pan orchfygwyd byddin o Ffrancwyr gan fyddin dan Ddug Wellington, brwydr a roddodd ddiwedd ar yr ymladd yn Sbaen i bob pwrpas.
Ar 20 Mai 1980, cyhoeddwyd Vitoria-Gasteiz yn brifddinas Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg (sef tri yn unig o saith talaith Gwlad y Basgː Iruña yw prifddinas hanesyddol Gwlad y Basg trwyddi draw). Mae'r boblogaeth wedi cynyddu'n sylweddol iawn yn y blynyddoedd diwethaf.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.