Velupillai Prabhakaran

From Wikipedia, the free encyclopedia

Velupillai Prabhakaran

Velupillai Prabhakaran (26 Tachwedd 195418 Mai 2009) oedd sylfaenydd ac arweinydd Teigrod Rhyddhau Tamil Eelam (y "Teigrod Tamil") yn Sri Lanca.

Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Velupillai Prabhakaran
Thumb
Ganwyd26 Tachwedd 1954 
Valvettithurai 
Bu farw19 Mai 2009 
Nanthi Lagoon 
DinasyddiaethSri Lanca 
Galwedigaethperson milwrol, gwleidydd, ymladdwr rhyddid 
Plaid WleidyddolTeigrod Rhyddhau Tamil Eelam 
Cau

Ganed ef yn Velvettithurai. Sefydlodd y Teigrod Tamil yn 1972, i ymladd am wladwriaeth annibynnol yng ngogledd a dwyrain Sri Lanca. Roedd Sri Lanca ac India yn chwilio amdano ar gyhuddiadau o derfysgaeth, a chomdemniwyd ef i farwolaeth yn ei absenoldeb. Datblygodd ymosodiadau'r Teigrod i roi cychwyn i Ryfel Cartref Sri Lanca, a barhaodd hyd nes iddynt gael eu gorchfygu gan luoedd arfog Sri Lanca ym mis Mai 2009. Am gyfnod, roedd y Teigrod yn rheoli rhan helaeth o ogledd a dwyrain yr ynys.

Dechreuwyd trafodaethau heddwch nifer o weithiau, y tro olaf yn 2002. Wedi i'r trafodaethau hyn fethu'n derfynol yn 2006, dechreuodd lluoedd arfog Sri Lanca ar ymgyrch fawr yn eu herbyn, ac yn raddol cipiwyd eu tiriogaethau oddi arnynt. Adroddwyd gan gyfryngau Sri Lanca fod Velupillai Prabhakaran wedi ei ladd yn nyddiau olaf yr ymladd. Dywedodd AFP ei fod ef a dau gynorthwydd, Soosai a Pottu Amman, wedi eu saethu'n farw tra'n ceisio dianc mewn ambiwlans.

Dolenni allanol

Golwg 360: Honni bod arweinydd y Teigrod Tamil wedi ei ladd[dolen farw]

Loading related searches...

Wikiwand - on

Seamless Wikipedia browsing. On steroids.